Y Gyllideb: John Healey'n cyhoeddi mesurau i fynd i'r afael â chostau ynni
Mae'r Canghellor wedi cyhoeddi ystod o fesurau newydd i fynd i'r afael â chostau ynni yn y gyllideb gyntaf ers i Andy Burnham ddod yn Brif Weinidog.
Cyhoeddodd John Healey y byddai cynllun i ostwng i treth ar werth ar filiau trydan i ddim - gafodd ei gyhoeddi ym mis Medi - yn cael ei ymestyn tan fis Gorffennaf 2027.
Fe gyhoeddodd hefyd y byddai 20 miliwn o gartrefi yn Lloegr sydd ym mandiau Treth y Cyngor A-D yn derbyn "taliad ynni" gwerth £100 y gaeaf hwn, mewn prosiect gwerth £2.6 biliwn.
Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin, anogodd Mr Healey y llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon - fydd yn derbyn cyllid ychwanegol o ganlyniad i'r cyhoeddiad - i wneud yr un peth.
Roedd sawl polisi arall yn y Gyllideb sydd yn ymgais ddelio â heriau biliau trydan a nwy uchel, gan gynnwys dileu taliadau sefydlog ar filiau nwy, wedi cael eu cyhoeddi cyn araith fawr y Canghellor ddydd Mercher.
Dywedodd Mr Healey y byddai'r tâl sefydlog ar filiau nwy yn cael ei ddiddymu y flwyddyn nesaf, gan addo bod "newidiadau tebyg i filiau trydan i ddilyn." Mae disgwyl y bydd tua 23 miliwn yn arbed £45 y flwyddyn ar eu biliau yn sgil y newid diweddaraf.
Mae trethi ychwanegol ar fanciau ac ar gamblo wedi eu cyhoeddi i helpu i dalu am y polisïau newydd.
Buddsoddiad i Fôn, Aberafan a Chaerdydd
Gan bwysleisio bod y llywodraeth eisiau gweld mwy o ddatganoli grymoedd a thwf economaidd ar draws y DU, dywedodd Mr Healey y byddai 100% o drethi busnes yn cael eu datganoli erbyn diwedd y degawd, gyda chynlluniau hefyd i rannu cyfran o'r dreth incwm gyda meiri rhanbarthol yn Lloegr.
Yn ôl dogfennau'r Trysorlys, fe fydd Llywodraeth Cymru’n derbyn £450 miliwn o gyllid yn ychwanegol yn sgil y cyhoeddiadau yn y Gyllideb.
Ychwanegodd Mr Healey y bydd Llywodraeth y DU yn buddsoddi'n uniongyrchol yng Nghymru hefyd.
Cyhoeddodd y bydd £2.5 miliwn yn mynd i ganolfan wyddoniaeth M-Sparc ar Ynys Môn, £11m i brosiect adeiladu pont yn Aberafan, Port Talbot, a £30m i ddatblygu gorsaf rheilffordd newydd Parcffordd Caerdydd.
Ymhlith y mesurau eraill yn y gyllideb mae:
- Rhewi trethi ar danwydd ar 52c y litr - gan ganslo cynlluniau i'w gynyddu ym mis Ionawr
- Cynyddu trothwy cynllun rhyddhad ardrethi busnes bach ym maes manwerthu, hamdden a lletygarwch o £12,000 i £18,000, gan olygu bod hanner siopau, bwytai y DU yn talu dim ardrethi busnes
- Cadw terfyn di-dreth cyfrifon ISA ar £20,000 - gan ganslo cynllun i'w leihau
- Cynyddu isafswm cyflog i weithwyr dros ac o dan 21 oed o 3.9%
Dywedodd y Canghellor y bydd gwariant ar amddiffyn yn cyrraedd 3% o GDP - cyfanswm yr hyn sy'n cael gynhyrchu yn y wlad - erbyn 2030, gan gynyddu ymhellach i 3.5% erbyn 2035.
Ond doedd dim manylion yn y gyllideb am sut bydd hyn yn digwydd, gyda Mr Healey yn dweud y bydd yn datgelu ei gynlluniau yn ystod yr adolygiad gwariant yn 2027.
Talu am y gyllideb
Wrth esbonio sut y byddai'r llywodraeth yn talu am y gyllideb, cyhoeddodd Mr Healey bydd yn cwtogi'r gofod ariannol (headroom) sydd ganddi tu hwnt i'r rheolau cyllidebol sylfaenol o £22bn i £15bn.
Bydd y gordaliad o 3% mae banciau'n gorfod ei dalu ar ben treth corfforaethol yn codi i 6% dros dro er mwyn talu am fesurau i ddelio â chostau ynni.
Fe fydd trethi ar gamblo yn cynyddu hefyd i ariannu mesurau i gefnogi'r stryd fawr, gyda threthi o 20% i 25% ar rhai peiriannau gamblo.
Yr ymateb
Wrth ymateb, dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr yn San Steffan bod y gyllideb "ddim yn ddigon da, ddim yn ddigon cryf, ddim yn ddigon beiddgar."
Dywedodd Kemi Badenoch bod y DU yn parhau i "orwario, gorfenthyg a gordrethu" a'i bod yn "suddo" dan bwysau "system les sydd allan o reolaeth" o dan Llywodraeth Llafur.
Mewn ymateb, dywedodd Elin Jones, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, bod toriad i gyllideb yr awdurdod datganoledig ar ôl ystyried chwyddiant.
“Nid yw’r gyllideb heddiw wedi gwneud unrhyw newid. Mae ein sefyllfa ariannol yn waeth nag yr oedd cyn i’r Canghellor godi ar ei draed ac fe fydd hynny’n cael effaith uniongyrchol ar ein Gyllideb ni ar 17 Tachwedd.
“Bydd angen i ni wneud penderfyniadau anodd, blaenoriaethu’n ddoeth a sicrhau rhagor o effeithlonrwydd ar draws y sector cyhoeddus er mwyn gallu parhau i fuddsoddi yn y meysydd sydd bwysicaf i bobl Cymru.
