Tommy Robinson yn euog o aflonyddu ar ddau newyddiadurwr
Mae'r ymgyrchydd asgell dde eithafol, Tommy Robinson, wedi'i gael yn euog o aflonyddu ar ddau newyddiadurwr.
Cafodd y dyn 43 oed, sy'n dwyn yr enw iawn Stephen Yaxley Lennon, ei ddisgrifio fel "bwli" gan yr erlyniad.
Clywodd y llys bod y gohebydd llawrydd Andrew Young a golygydd y Daily Mail, Jacob Dirnhuber, yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw naill ai adael eu cartrefi neu gyflogi staff diogelwch ychwanegol oherwydd eu bod yn ofni bydd rhywun yn ymosod arnyn nhw.
Cymerodd 11 awr a 25 munud i reithgor yn Llys y Goron Southwark yn Llundain ddod i benderfyniad, gan ddyfarnu bod Robinson yn euog o'r ddau gyhuddiad o aflonyddu drwy fwyafrif o 10 i ddau.
Eisteddodd i lawr gan ysgwyd ei ben yn dawel wrth i'r barnwr annerch y rheithgor ar ôl y dyfarniad.
Roedd Robinson, sylfaenydd grŵp yr English Defence League, wedi pledio'n ddieuog i'r ddau gyhuddiad ym mis Gorffennaf y llynedd.
Clywodd y llys fod yr ymgyrchydd gwrth-fewnfudo wedi "dial" ar y newyddiadurwyr ar ôl i'r Daily Mail a MailOnline gyhoeddi erthygl amdano'n "cynnau terfysgoedd" yn ystod yr aflonyddwch yn y DU ym mis Awst 2024, yn dilyn llofruddiaeth tair merch yn Southport.
Roedd Robinson wedi cyhoeddi cyfres o negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol am y sefyllfa tra oedd ar wyliau ar ynys Cyprus, gan arwain at benderfyniad gan y papur newydd i anfon Mr Young a ffotograffydd i'r ynys.
Ar ôl i MailOnline gyhoeddi ei erthygl amdano, fe wnaeth Robinson gyhoeddi negeseuon ar ei gyfrif X yn beirniadu Mr Young a Mr Dirnhuber am eu rhan yn yr erthygl.
Aeth Robinson ymlaen i gyflogi ymchwilwyr preifat i ddod o hyd i gyfeiriadau cartref y ddau ddioddefwr, yn ogystal â chyfeiriad cartref prif olygydd y Daily Mail, Ted Verity.
Dagrau
Derbyniodd y rheithgor ddadl yr erlyniad mai bwriad cyflogi'r ymchwilwyr oedd "dychryn" y dioddefwyr, ar ôl i Robinson gyhoeddi lluniau o Mr Dirnhuber y tu allan i'w gartref a delweddau o deulu Mr Young.
Yn ogystal â chyhoeddi negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol ac anfon negeseuon uniongyrchol at Mr Dirnhuber, daeth ymddygiad y diffynnydd yn "fwyfwy bygythiol" yn ystod galwad ffôn gyda Mr Young ar 5 Awst 2024, clywodd y llys.
Dywedodd wrth y newyddiadurwr llawrydd: "Dwi'n mynd i dy gael di."
Gwrthododd y rheithgor honiadau'r ymgyrchydd fod y Daily Mail wedi rhoi ei deulu mewn perygl drwy gyhoeddi'r erthygl. Fe wylodd y diffynnydd yn y blwch tystion wrth iddo siarad am ei berthynas â'i blant.
Swyddogion diogelwch
Roedd yr erlynydd Ben Holt wedi dweud wrth y llys yn gynharach fod y Daily Mail wedi darparu swyddog gwarchod personol i Mr Young ar ôl i luniau o'i wraig a'i blant gael eu cyhoeddi ar gyfrif X Robinson.
Bu'n rhaid i Mr Dirnhuber symud tŷ oherwydd yr aflonyddu, ac roedd gohebydd y Daily Mail, George Odling, hefyd wedi teimlo'r angen i adael cartref ei deulu oherwydd ei bryderon am y sylw cyhoeddus oedd yn ymwneud â'i gydweithwyr.
Roedd Mr Verity hefyd wedi rhoi tystiolaeth i'r heddlu am neges llais a gafodd gan Robinson, lle dywedodd Robinson wrtho: "Dwi wedi dod o hyd i bob f****** un ohonoch chi."
Cyn i'r achos ddechrau, cyhoeddodd yr ymgyrchydd neges ar X yn diolch i berchennog Tesla, Elon Musk, am ariannu ei gostau cyfreithiol.
Cafodd Robinson ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd yn cael ei ddedfrydu ar 16 Rhagfyr.
