Y Gyllideb: John Healey'n cyhoeddi mesurau i fynd i'r afael â chostau ynni
Mae'r Canghellor wedi cyhoeddi ystod o fesurau newydd i fynd i'r afael â chostau ynni yn y gyllideb gyntaf ers i Andy Burnham ddod yn Brif Weinidog.
Cyhoeddodd John Healey y byddai cynllun i ostwng i treth ar werth ar filiau trydan i ddim - gafodd ei gyhoeddi ym mis Medi - yn cael ei ymestyn tan fis Gorffennaf 2027.
Fe gyhoeddodd hefyd y byddai 20 miliwn o gartrefi yn Lloegr sydd ym mandiau Treth y Cyngor A-D yn derbyn "taliad ynni" gwerth £100 y gaeaf hwn, mewn prosiect gwerth £2.6 biliwn.
Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin, anogodd Mr Healey y llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon - fydd yn derbyn cyllid ychwanegol o ganlyniad i'r cyhoeddiad - i wneud yr un peth.
Roedd sawl polisi arall yn y Gyllideb sydd yn ymgais ddelio â heriau biliau trydan a nwy uchel, gan gynnwys dileu taliadau sefydlog ar filiau nwy, wedi cael eu cyhoeddi cyn araith fawr y Canghellor ddydd Mercher.
Dywedodd Mr Healey y byddai'r tâl sefydlog ar filiau nwy yn cael ei ddiddymu y flwyddyn nesaf, gan addo bod "newidiadau tebyg i filiau trydan i ddilyn." Mae disgwyl y bydd tua 23 miliwn yn arbed £45 y flwyddyn ar eu biliau yn sgil y newid diweddaraf.
Buddsoddiad i Fôn, Aberafan a Chaerdydd
Gan bwysleisio bod y llywodraeth eisiau gweld mwy o ddatganoli grymoedd a thwf economaidd ar draws y DU, dywedodd Mr Healey y byddai 100% o drethi busnes yn cael eu datganoli erbyn diwedd y degawd, gyda chynlluniau hefyd i rannu cyfran o'r dreth incwm gyda meiri rhanbarthol yn Lloegr.
Wedi cyhoeddi ystod o fuddsoddiadau mewn ardaloedd yn Lloegr, dywedodd y Canghellor y byddai y llywodraethau datganoledig, gan gynnwys un Cymru, yn cael cyllid cyfatebol, ond ychwanegodd y bydd Llywodraeth y DU yn buddsoddi'n uniongyrchol hefyd.
Cyhoeddodd y bydd £2.5 miliwn yn mynd i ganolfan wyddoniaeth M-Sparc ar Ynys Môn, £11m i brosiect adeiladu pont yn Aberafan, Port Talbot, a £30m i ddatblygu gorsaf rheilffordd newydd Parcffordd Caerdydd.
Ymhlith y mesurau eraill yn y gyllideb mae:
- Rhewi trethi ar danwydd ar 52c y litr - gan ganslo cynlluniau i'w gynyddu ym mis Ionawr
- Cynyddu'r trothwy ar gyfer cymorth trethi busnes bach ym maes manwerthu, hamdden a lletygarwch o £12,000 i £18,000
- Cadw terfyn di-dreth cyfrifon ISA ar £20,000 - gan ganslo cynllun i'w leihau
- Cynyddu isafswm cyflog o bobl dros ac o dan 21 oed o 3.9%
Talu am y gyllideb
Wrth esbonio sut y byddai'r llywodraeth yn talu am y gyllideb, cyhoeddodd Mr Healey bydd yn cwtogi'r gofod ariannol (headroom) sydd ganddi tu hwnt i'r rheolau cyllidebol sylfaenol o £22bn i £15bn.
Bydd y gordaliad o 3% mae banciau'n gorfod ei dalu ar ben treth corfforaethol yn codi o 3% arall dros dro er mwyn talu am fesurau i ddelio â chostau ynni.
Fe fydd trethi ar gamblo yn cynyddu hefyd i ariannu mesurau i gefnogi'r stryd fawr, gyda threthi o 20% i 25% ar rhai peiriannau gamblo.
Yr ymateb
Wrth ymateb, dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr yn San Steffan bod y gyllideb "ddim yn ddigon da, ddim yn ddigon cryf, ddim yn ddigon beiddgar."
Dywedodd Kemi Badenoch bod y DU yn parhau i "orwario, gorfenthyg a gordrethu" a'i bod yn "suddo" dan bwysau "system les sydd allan o reolaeth" o dan Llywodraeth Llafur.
