Y Gyllideb: Llywodraeth Cymru'n galw am 'driniaeth deg o'r diwedd i Gymru'
Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am "driniaeth deg" i Gymru yng Nghyllideb y Canghellor ddydd Mercher.
Mae'r Canghellor John Healey wedi addo rhoi "lle i anadlu" i aelwydydd a busnesau yng nghanol yr argyfwng costau byw, wrth iddo baratoi i gyflwyno ei gyllideb gyntaf.
Mae disgwyl iddo gyhoeddi y bydd yn rhewi'r dreth ar danwydd, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer diwygiadau yn yr hir-dymor er mwyn ceisio sichrau bod y Deyrnas Unedig yn medru ymdopi yn wyneb datblygiadau annisgwyl yn rhyngwladol.
Cyn y Gyllideb, dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Elin Jones ar ran Llywodraeth Cymru fod Cymru'n "chwarae ei rhan lawn yn economi'r Deyrnas Unedig" a'i bod yn cyfrannu.
"Nawr mae'n bryd i’r Llywodraeth gydnabod yr uchelgais honno drwy weithredu, a darparu cyllideb sy’n ein trin yn deg o’r diwedd.”
Ychwanegodd fod Cymru "wedi bod ar ei cholled" ers blynyddoedd, gan ychwanegu fod y Gyllideb yn foment "dyngedfennol".
Galwodd hefyd am ragor o arian i'r rheilffyrdd yma yng Nghymru.
Mae cynllun HS2 wedi bod yn destun dadlau gwleidyddol yng Nghymru oherwydd iddo gael ei ddynodi yn brosiect ar gyfer Cymru a Lloegr.
Ond mae Plaid Cymru wedi dadlau ers blynyddoedd nad oes budd i Gymru o'r cynllun.
“Dim ond 1% o wariant Network Rail ar draws Cymru a Lloegr sy'n dod i Gymru. Dyw hynny ddim yn fargen deg o bell ffordd" meddai Elin Jones.
"Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi addo £14 biliwn i wneud iawn am ddegawdau o danariannu. Ry'n ni'n pwyso am ryddhau £1 biliwn o'r arian hwnnw nawr, fel bod pobl Cymru yn gweld gwelliannau gwirioneddol, nid mwy o addewidion yn cael eu gohirio o hyd."
Dywedodd hefyd fod angen i San Steffan gefnogi prosiectau ynni a seilwaith.
“Mae pobl yn cael trafferth ymdopi â chostau byw. Nid opsiwn yw darparu cymorth wedi'i dargedu i'r aelwydydd mwyaf bregus, yn enwedig y rhai sy'n wynebu costau ynni uchel - mae'n hanfodol.
"Mae rhewi'r Lwfans Tai Lleol, er bod rhenti'n codi, yn gwthio pobl tuag at ddigartrefedd. Mae'n rhaid rhoi stop ar hynny," ychwanegodd.
Mae'n bosib y bydd Llywodraeth Cymru yn cael rhagor o arian yn ei chyllideb os bydd gwariant ychwanegol yn Lloegr mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru.