Pryder am ddyfodol llaeth am ddim yn ysgolion Cymru

Llaeth Plant Ysgol

Mae pryderon wedi'u codi am effaith bosibl dod â chynllun cymhorthdal llaeth ysgol yng Nghymru i ben, ar blant a'r diwydiant llaeth.

Mae undebau amaethyddol wedi galw am barhau â'r ddarpariaeth, tra bod Cymdeithas y Feganiaid yn cefnogi dod â'r cymhorthdal ar gyfer llaeth buwch i ben.

Daw'r sylwadau wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ymgynghoriad 10 wythnos ar ddyfodol y Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol, sydd wedi costio tua £3 miliwn y flwyddyn yn y gorffennol.

Ar hyn o bryd, mae'r cynllun yn darparu llaeth am ddim i blant o'r Dosbarth Derbyn hyd at Flwyddyn 2, a llaeth â chymhorthdal i ddisgyblion Blynyddoedd 3 i 6.

Ond bydd yr Asiantaeth Taliadau Gwledig, sy'n gweinyddu'r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru, yn rhoi'r gorau i wneud hynny ddiwedd mis Mawrth 2027.

Mae'r Llywodraeth felly'n ystyried sefydlu cynllun newydd yng Nghymru neu ddod â'r ddarpariaeth bresennol i ben.

Yn ôl asesiad effaith y Llywodraeth, roedd 81,374 o blant yn derbyn llaeth ar ddiwrnod cyfrifiad ysgolion 2024/25, sef tua 30% o'r rhai oedd yn gymwys.

'Sicrwydd' i blant

Mae Sara Jenkins o ardal Aberystwyth, sy'n fam i blant ifanc ac sydd ag un plentyn yn derbyn llaeth yn yr ysgol ar hyn o bryd, yn cefnogi parhau â'r ddarpariaeth.

"Rydyn ni'n ffodus mewn ffordd adref, mae ein plant ni'n cael digon o laeth yn naturiol, ond mae yna bobl eraill sydd ddim yn cael llaeth," meddai wrth Newyddion S4C.

"Mae hynna'n rhoi cyfle iddyn nhw wedyn i gael eu dogn o laeth yn yr ysgol."

Image
Llaeth

Er bod llaeth ar gael drwy glybiau brecwast, dywedodd Ms Jenkins nad yw plant o reidrwydd yn ei yfed yn ystod y sesiynau hynny.

"Maen nhw'n mynd allan i chwarae ac yn gwneud pethau eraill yn ystod y clybiau brecwast," meddai.

"Os yw hwn yn rhan o drefn ddyddiol yr ysgol, mae'n sicrwydd wedyn bod rhywun yn derbyn llaeth."

Roedd hefyd yn cydnabod bod angen adolygu'r cynllun er mwyn sicrhau bod dewisiadau amgen ar gael i blant na allant yfed llaeth buwch.

'Diod faethlon'

Dywedodd Dai Miles, is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, sy'n ffermwr llaeth, y byddai'r undeb yn cefnogi cadw'r cynllun.

"Mae'r gwaith ymchwil o dro i dro yn dangos bod llaeth yn ddiod faethlon," meddai.

"Mae'n lot gwell na'r pop a'r siwgr maen nhw'n cael."

Cyfeiriodd hefyd at blant sy'n mynd i'r ysgol heb frecwast, gan ddweud ei bod yn bwysig eu bod yn cael rhywbeth maethlon yn ystod y bore.

Yn ôl Mr Miles, Er nad yw'r cynllun yn cynrychioli rhan fawr o'r diwydiant llaeth yng Nghymru ar hyn o bryd, dywedodd y gallai fod yn gyfle i gynyddu'r defnydd o laeth lleol mewn ysgolion.

"Mae hynny'n rhan bwysig o'r ymgynghoriad, i weld os allwn ni wneud yn siŵr bod llaeth lleol, mor lleol â phosib, yn gallu mynd i mewn i'r ysgolion lleol," meddai.

Image
Martin Griffiths a Dai Miles
Martin Griffiths (NFU Cymru) a Dai Miles (Undeb Amaethwyr Cymru)

Roedd Martin Griffiths, is-gadeirydd Bwrdd Llaeth NFU Cymru, hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd darparu llaeth i blant ysgol.

"Mae NFU Cymru yn cefnogi darparu llaeth i blant ysgol ledled Cymru. Mae'n ffynhonnell bwysig o brotein, fitaminau a mwynau, gan gynnwys calsiwm, sy'n rhan hanfodol o ddeiet cytbwys," meddai.

"Mae ffermwyr Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i ddarparu llaeth ffres a maethlon, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a'r gadwyn gyflenwi laeth i edrych ar sut y gall mwy o ysgolion ledled Cymru gael llaeth o ffermydd Cymru."

Ychwanegodd y byddai NFU Cymru yn ymateb i'r ymgynghoriad, gan annog ei aelodau i wneud yr un peth.

Effaith ar fusnesau

Dywedodd Richard Williams, rheolwr Ddol Fach Dairy yn ardal Llanelli, sy'n cyflenwi llaeth i ysgolion yn ardaloedd Caerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, y byddai'n drueni pe bai'r cynllun yn dod i ben.

"Mae'n rhan fawr o'n busnes ni, ac mae hefyd o fudd i'r plant gael llaeth," meddai.

"Os yw teuluoedd yn ei chael hi'n anodd, dydyn nhw ddim yn cael digon o galsiwm os nad ydyn nhw'n cael llaeth."

Mae asesiad effaith Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gallai dod â'r cynllun i ben leihau'r galw am laeth a chael effaith negyddol ar rai cyflenwyr a busnesau gwledig, ond nad oes digon o dystiolaeth i fesur maint yr effaith bosibl.

Image
Llath Plant ysgol

Nid dyma'r tro cyntaf i laeth ysgol achosi dadlau.

Cafodd llaeth am ddim ei gyflwyno yn gyffredinol i blant ysgol ledled Prydain, gan gynnwys Cymru, yn 1946.

Yn 1971, cafodd Margaret Thatcher, oedd yn Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg ar y pryd, y llysenw 'Thatcher the Milk Snatcher' ar ôl i'r ddarpariaeth gyffredinol o laeth am ddim i blant rhwng saith ac 11 oed ddod i ben.

Ond erbyn 1978, roedd y rhan fwyaf o awdurdodau addysg Cymru wedi ailgyflwyno llaeth am ddim i'r grŵp oedran hwnnw.

Yn 2001, cyflwynodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddarpariaeth llaeth am ddim i blant o'r Dosbarth Derbyn hyd at Flwyddyn 2.

Cefnogaeth i ddod â'r cymhorthdal i ben

Ond dywedodd Clare Ogley, pennaeth ymgyrchoedd, polisi ac ymchwil Cymdeithas y Feganiaid, fod y gymdeithas yn cefnogi dod â'r cymhorthdal ar gyfer llaeth buwch i ben.

"Byddem yn cefnogi dod â'r cynllun cymhorthdal ar gyfer llaeth buwch i ben, ond fel rhan o newid bwriadol tuag at ddeietau iachach a mwy cynaliadwy," meddai.

"Ein safbwynt ni yw bod y diwydiant llaeth yn achosi niwed enfawr i'r amgylchedd, ac mae'n ddiwydiant creulon iawn.

"Dydyn ni ddim yn credu y dylai gael ei gefnogi gan gymorthdaliadau'r Llywodraeth."

Yn ôl Ms Ogley, nid yw llaeth buwch yn hanfodol i ddeiet iach, ac mae modd i blant gael digon o faeth drwy ddeiet sydd wedi'i gynllunio'n briodol ac sy'n seiliedig ar blanhigion.

Image
Claire Ogley
Claire Ogley (Cymdeithas Feganiaeth y DU)

Wrth gael ei holi am yr effaith bosibl ar ffermwyr Cymru, dywedodd:

"Dydyn ni ddim yn gwrthwynebu ffermwyr. Mae angen ffermwyr arnom ni i gyflenwi'r bwyd rydyn ni'n ei fwyta hefyd.

"Byddem wrth ein boddau'n eu gweld nhw'n gwerthu ceirch o Brydain ac yn gwneud llaeth ceirch hefyd.

"Dwi ddim yn credu mai dadl rhwng feganiaid a ffermwyr yw hon."

Pe bai Llywodraeth Cymru'n penderfynu cadw'r cynllun, dywedodd Ms Ogley y dylai gynnwys dewisiadau amgen, fel llaeth ceirch neu soia wedi'u hatgyfnerthu â maetholion.

Nid yw'r diodydd hyn yn cael eu cynnwys yn y cynllun ar hyn o bryd.

Mae asesiad gwyddonol gan ddau bwyllgor cynghori Llywodraeth y DU yn nodi nad yw pob diod sy'n yn cynnig yr un gwerth maethol â llaeth buwch, ond y gall dewisiadau amgen addas, wedi'u hatgyfnerthu, fod yn rhan o ddeiet cytbwys.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio y bydd llaeth yn parhau i fod ar gael i blant cynradd drwy glybiau brecwast a'r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim, beth bynnag fydd canlyniad yr ymgynghoriad.

Ond mae ei hasesiad hawliau plant yn cydnabod y gallai rhai plant o deuluoedd difreintiedig gael llai o gyfleoedd i yfed llaeth pe bai'r cynllun yn dod i ben.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan:

"Mae llaeth yn rhan bwysig o gefnogi iechyd a llesiant ein dysgwyr ieuengaf ers amser maith, ac rwyf am wneud yn siŵr bod unrhyw benderfyniadau am ei ddyfodol yn seiliedig ar y dystiolaeth gryfaf bosibl."

Anogodd ysgolion, rhieni, dysgwyr a'r sectorau ffermio a llaeth i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 4 Ionawr 2027.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.