Gwaith celf newydd yn deyrnged i chwarelwyr bro Llanberis
Mae gwaith celf newydd wedi ei osod ym mhentref Llanberis yng Ngwynedd.
Mae’r darn trawiadol gan yr artist Howard Bowcott yn "deyrnged i chwarelwyr yr ardal, eu teuluoedd a’r gymuned gyfan a fu’n rhan o’r diwydiant” meddai Cyngor Gwynedd.
Mae’r cerflun ‘Darllen y Graig’, yn dathlu sgil y chwarelwyr o ddeall a “darllen” y graig, gyda geiriau wedi’u naddu sy’n adrodd hanes eu gwaith a’u cymuned.
Mae’r gwaith yn olrhain taith bachgen o blentyndod i waith yn y chwarel, gan "amlygu cyfeillgarwch, caledi a heriau bywyd y diwydiant llechi.”
'Cerflun arbennig'
Dywedodd Howard Bowcott: “Mae hwn wedi bod yn gerflun arbennig iawn i ymchwilio iddo a'i ddylunio dros sawl blwyddyn, a hefyd i'w wneud.
"Mae dros 5000 o ddarnau o lechi to Dinorwig wedi'u pentyrru gyda'i gilydd i greu'r golofn sy'n troelli gan bwyll.
"Mae wedi'i hysbrydoli gan gŷn holltwr llechi. Ond i mi mae cyfoeth y golofn ym manylder y testun, wedi'i ysgythru ar fandiau o lechi coeth.
“Bu'n bosib i mi dynnu sylw at rôl menywod yn y cymunedau llechi sy'n aml yn cael ei hesgeuluso, i'w dathlu ochr yn ochr â sgil y chwarelwyr. Mae'n ddathliad o gymuned, crefft a diwylliant sy'n nodi’r Safle Treftadaeth y Byd.”
'Gwireddu gweledigaeth'
Dywedodd Bethan Holding Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanberis a Dyffryn Peris: “Daeth cyfle unigryw i’r gymuned allu gwireddu gweledigaeth o greu cofeb i’r chwarelwyr.
"Roedd y prosiect yn gyfle nid yn unig i godi cerflun trawiadol sy’n cydnabod statws Safle Treftadaeth y Byd Llechi Cymru, ond hefyd i gofio am y chwarelwyr a chydnabod cyfraniad pob gwraig a phob teulu a safai y tu ôl i bob chwarelwr.”