Rhys Ifans yn cefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2029
Mae’r actor Rhys Ifans wedi datgan ei gefnogaeth i gais Wrecsam i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2029.
Wedi’i eni yn Hwlffordd a’i fagu yn Rhuthun, mae gan Rhys gysylltiadau cryf â Gogledd Cymru ac mae’n un o sêr mwyaf adnabyddus Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.
Dechreuodd ei yrfa ar raglenni teledu Cymraeg S4C, cyn ennill enwogrwydd ledled y byd drwy ei rolau yn Notting Hill, Harry Potter and the Deathly Hallows, The Amazing Spider-Man ac, yn fwy diweddar, House of the Dragon ar HBO.
Mae Wrecsam yn paratoi i groesawu beirniaid y gystadleuaeth Dinas Diwylliant ddiwedd mis Tachwedd.
'Dyma amser Cymru'
Wrth gyhoeddi ei gefnogaeth i gais Wrecsam, dywedodd Rhys Ifans: “Rwy’n cefnogi cais Wrecsam2029 oherwydd dyma amser Wrecsam, a dyma amser Cymru.
"Mae gennym ni’r cerddorion, yr artistiaid, yr actorion, y cyfarwyddwyr a’r gwneuthurwyr ffilmiau, ac os bydd Wrecsam yn cael y cyfle i gynnal y flwyddyn y mae’n ei haddo, bydd hynny wir yn rhoi Cymru, yn ogystal â Wrecsam, ar y map fel un o’r canolfannau mawr ar gyfer creadigrwydd a’r celfyddydau.”
Dywedodd Kate Wasserberg, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd ac Ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Gymunedol a Diwylliannol Wrecsam:
“Mae cael rhywun o dalent eithriadol ac enwogrwydd rhyngwladol Rhys Ifans yn cefnogi cais Wrecsam yn gwbl wych. Mae Rhys yn dalent greadigol falch o Gymru sydd â gwreiddiau dwfn yng Ngogledd Cymru, ac mae ei yrfa’n dangos pa mor bell y gall creadigrwydd Cymru gyrraedd.
“Yn Theatr Clwyd, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw meithrin talent greadigol a chynnig cyfleoedd i bobl wireddu eu potensial. Mae Rhys yn deall cyfoeth diwylliannol yr ardal hon, ac mae cael ei gefnogaeth yn anfon neges bwerus am yr hyn sydd gan Wrecsam a Gogledd Cymru i’w gynnig. Mae’n hynod gyffrous ei gael yn cefnogi’r ymgyrch hon.”
Beth sy’n digwydd nesaf?
Mae Wrecsam yn un o bedwar lle sydd wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU 2029, a bydd y lle buddugol yn derbyn £10 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i gyflwyno rhaglen ddiwylliannol blwyddyn o hyd.
Bydd panel cynghori arbenigol a benodwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn ymweld â Wrecsam ddiwedd mis Tachwedd i gael profiad uniongyrchol o arlwy diwylliannol y ddinas.
Yna, bydd tîm cais Wrecsam2029 yn cyflwyno ei gais terfynol i’r panel ganol mis Ionawr, cyn i’r enillydd gael ei gyhoeddi yn gynnar yn 2027.