Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn naw sir yng Nghymru
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion a allai amharu ar deithio mewn rhannau o Gymru nos Lun ac yn ystod oriau mân y bore fore Mawrth.
Mae disgwyl hyrddiau (gusts) o hyd at 65 milltir yr awr ar arfordiroedd agored ac ar dir uchel, gyda glaw trwm ar adegau.
Bydd gwyntoedd o’r de a’r de-orllewin yn cryfhau o’r gorllewin nos Lun, gyda hyrddiau o 45 i 50 milltir yr awr yn fewndirol a rhwng 60 a 65 milltir yr awr mewn mannau mwy agored.
Mae’r rhybudd yn berthnasol i naw sir:
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Ynys Môn
- Castell-nedd Port Talbot
- Sir Benfro
- Abertawe
Mae’r Swyddfa Dywydd yn annog pobl i fod yn ofalus ger yr arfordir, gan rybuddio y gall tonnau mawr ysgubo pobl oddi ar eu traed ac i’r môr hyd yn oed pan fyddant ar y lan.
Mae’n debygol y bydd tonnau mawr yn effeithio ar rai ffyrdd a chymunedau arfordirol.
Dylai pobl sy’n cerdded ger clogwyni fod yn gyfarwydd â’u llwybr a chadw cŵn ar dennyn. Mewn argyfwng ar yr arfordir, dylid ffonio 999 a gofyn am Wylwyr y Glannau.
Mae oedi’n debygol ar y ffyrdd ac i wasanaethau trenau, bysiau, awyrennau a fferïau. Fe allai cerbydau uchel hefyd wynebu oedi ar ffyrdd a phontydd agored.
Mae posibilrwydd y bydd toriadau i gyflenwadau trydan a gwasanaethau eraill.
Mae cyngor hefyd i wirio cyflwr y ffyrdd ac amserlenni trafnidiaeth cyn teithio, ac i baratoi ar gyfer unrhyw doriadau trydan drwy gasglu eitemau fel tortshis, batris a gwefrydd cludadwy ar gyfer ffôn symudol.
Bydd y gwyntoedd yn gwanhau o’r gorllewin yn ystod yr oriau mân, cyn cryfhau eto ar draws rhannau gogleddol o’r DU yn gynnar fore Mawrth.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn cynghori pobl i gadw golwg ar y rhagolygon diweddaraf, gan y gall rhybuddion newid yn gyflym.
