Rygbi: Ieuan Evans i gamu o'r neilltu fel cadeirydd y Llewod

Ieuan Evans

Bydd cyn-gapten Cymru, Ieuan Evans, yn camu o'r neilltu fel cadeirydd y Llewod ddydd Mercher ar ôl bron i bedair blynedd yn y swydd.

Cafodd y cyn-asgellwr, sy'n 62 oed, ei benodi'n gadeirydd yn 2022 ac mae bellach yn dod at ddiwedd ei gyfnod yn y swydd.

Fe gynrychiolodd y Llewod Prydain ac Iwerddon ar dair taith fel chwaraewr, i Awstralia yn 1989, Seland Newydd yn 1993 a De Affrica yn 1997.

Dywedodd Ieuan Evans ei fod yn "hynod falch" o'r hyn sydd wedi'i gyflawni yn ystod ei gyfnod fel cadeirydd.

"Rwy'n hynod falch o'r hyn sydd wedi'i gyflawni dros y pedair blynedd diwethaf, yn enwedig llwyddiant taith 2025, y cynnydd tuag at daith gyntaf y Llewod Merched a chryfder y sefydliad wrth edrych ymlaen at bennod newydd gyffrous," meddai.

Mae'r Llewod bellach wedi dechrau chwilio am gadeirydd newydd cyn taith gyntaf erioed tîm y merched i Seland Newydd y flwyddyn nesaf.

Yn ystod ei gyfnod yn y swydd, fe wnaeth Evans hefyd oruchwylio newidiadau i drefniadau llywodraethiant y Llewod, gan gynnwys penodi cyfarwyddwyr annibynnol i'r bwrdd.

Fel chwaraewr, roedd Evans yn rhan allweddol o fuddugoliaeth y Llewod yn Awstralia yn 1989.

Fe sgoriodd gais hollbwysig yn y drydedd gêm brawf wrth i'r Llewod sicrhau buddugoliaeth yn y gyfres.

Dywedodd prif weithredwr y Llewod, Ben Calveley, fod "angerdd heintus" Ieuan Evans tuag at y Llewod a'i ddealltwriaeth o'r hyn sy'n gwneud y sefydliad yn arbennig wedi bod yn amlwg drwy gydol ei gyfnod yn y swydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.