Teyrngedau o'r byd rygbi i chwaraewr ifanc disglair RGC a Chaernarfon yn dilyn ei farwolaeth

20/10/2026
Jack Cameron.jpeg

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i chwaraewr disglair Rygbi Gogledd Cymru a Chaernarfon yn dilyn ei farwolaeth yn 24 oed.

Roedd Jack Cameron Wynne Davies yn dod o Lanfairpwll ar Ynys Môn ac yn athro yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy.

Yn chwaraewr rygbi talentog, roedd yn chwarae i Glwb Rygbi Caernarfon a Rygbi Gogledd Cymru. 

Mewn teyrnged ar y cyd, dywedodd y ddau glwb rygbi: "Gyda thristwch mawr y mae Clwb Rygbi Caernarfon ac RGC yn cyhoeddi marwolaeth un o'n chwaraewyr, Jack Cameron Wynne Davies yn 24 oed yn unig.

"Ar ôl ymuno â Chlwb Rygbi Caernarfon yn 12 oed fel athletwr addawol iawn, datblygodd mewn amrywiaeth o dimau a llwyddodd i fod yn rhan o lwybr RGC, cyn symud i lawr i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd i astudio Addysg Gorfforol a Chwaraeon am dair blynedd. Dychwelodd i CR Gaernarfon ag RGC, gan ailymuno â'r sgwadiau hŷn yn 2023."

Ychwanegodd y clybiau: "Roedd yn rhan allweddol o deulu RGC a CR Caernarfon ac mae ei farwolaeth yn golled ddinistriol i bawb sy'n gysylltiedig â'r ddau glwb.

"Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad dwysaf gyda'i deulu, ei ffrindiau, ei gyd-chwaraewyr a phawb oedd yn ei adnabod yn ystod yr amser anodd hwn."

Image
Jack Cameron Wynne Davies
Llun: Clwb Rygbi Caernarfon

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth: “Newyddion mor drist. Mae’n meddyliau ni gyd heno efo teulu a ffrindiau Jack, holl ddisgyblion a staff Ysgol David Hughes, a’r gymuned rygbi yng ngogledd Cymru.

“Cwsg yn dawel, Jack.”

'Eu haddysgu, eu harwain a'u hysbrydoli'

Roedd Mr Davies yn gweithio fel athro yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy.

Dywedodd yr ysgol mewn teyrnged: "Mae hon yn golled enfawr i gymuned Ysgol David Hughes. Bu Jack yn llawer mwy nag aelod o staff; roedd yn ffrind, yn fentor, yn fodel rôl ac yn ffynhonnell gyson o gefnogaeth i gynifer. 

"Bydd ei garedigrwydd, ei ymroddiad, ei gynhesrwydd a'i ymrwymiad diwyro i les a llwyddiant ein dysgwyr yn aros yn y cof. "

Ychwanegodd yr ysgol: "Roedd Jack hefyd yn gyn-ddisgybl yn yr ysgol. Bu ar un adeg yn cerdded yr un coridorau ac yn eistedd yn yr un ystafelloedd dosbarth â'r bobl ifanc y daeth yn ddiweddarach i'w haddysgu, eu harwain a'u hysbrydoli. 

"Roedd ei daith o fod yn ddisgybl i fod yn aelod gwerthfawr o staff yn destun balchder mawr i'n cymuned ysgol gyfan, ac roedd ei gysylltiad â'r ysgol yn un dwfn a pharhaol."

'Wastad yn fodlon ei gymwynas'

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru mewn teyrnged: "Mae Undeb Rygbi Cymru yn hynod o drist o glywed am farwolaeth sydyn Jack Davies, chwaraewr RGC.

"Hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu Jack, ei ffrindiau, ei gyd-chwaraewyr a phawb yn RGC yn ystod yr adeg hynod o anodd hon."
 
Mae clybiau rygbi Llangefni, Bethesda a Chasnewydd hefyd wedi rhannu teyrngedau, gan gynnig eu cydymdeimladau dwysaf i'w deulu a'i ffrindiau.
 
Wrth roi teyrnged iddo fore Mawrth, dywedodd Clwb Pêl-droed Llanfairpwll: "Gyda thristwch mawr y daeth Clwb Pêl-Droed Llanfairpwll i glywed am farwolaeth un a oedd mor annwyl i ni, Jack Cameron Wynne Davies.
 
"Wedi ei fagu dafliad carreg o Maes Eilian, bu Jack yn cynrychioli’r clwb Iau fel rhan o dîm chwedlonol Celtiaid Llanfairpwll cyn mynd ymlaen i gynrychioli’r clwb hŷn. Hyd yn oed wedi ei ddyddiau chwarae ddod i ben, roedd Jack wastad yn fodlon ei gymwynas i fod o gymorth lle gallai."
Image
Jack Cameron Wynne Davies 2
Llun: Clwb Rygbi Caernarfon
 
Ychwanegodd y clwb pêl-droed ei fod hefyd yn "athro balch a gwerthfawr" yn ei gyn-ysgol, Ysgol David Hughes, Porthaethwy.
 
"Yn annwyl, yn garedig, yn gymwynasgar ac yn ffrind i gymaint, bydd colli Jack yn ergyd drom i lawer," meddai'r clwb.
 
"Mae’n meddyliau, ein gweddiau a’n cydymdeimlad dwysaf gyda theulu, ffrindiau ac anwyliad Jack."
 
Roedd Mr Davies yn gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn y brifddinas.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.