Dyn o'r Rhyl yn gwadu dynladdiad wedi marwolaeth dyn 58 oed o Landudno
Mae dyn o’r Rhyl wedi pledio’n ddieuog i ddynladdiad dyn 58 oed o Landudno y llynedd.
Fe wnaeth Brogan Pilling-Green, 38 oed, o Fordd Garford, ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun.
Roedd wedi’i gyhuddo o ddynladdiad Andrew Duncan a gafodd ei ddarganfod wedi’i anafu ym Mharc Bodafon, Llandudno, fis Rhagfyr y llynedd.
Bu farw’n ddiweddarach yn Ysbyty Glan Clwyd ar 16 Rhagfyr.
Mae Mr Pilling-Green yn parhau dan fechnïaeth ac fe fydd yn ymddangos yn y llys ar gyfer y gwrandawiad nesaf ar 9 Tachwedd.
Fe gafodd 21 Mehefin 2027 ei osod fel dyddiad ar gyfer yr achos.
