Rhyddhau fersiwn newydd o 'Jolene' gyda Dolly Parton yn canu'n Gymraeg

Roedd Bronwen Lewis (dde) yn ei dagrau pan glywodd y byddai'n canu ar yr un trac â Dolly
Dolly Parton, Bronwen Lewis

Mae fersiwn rhannol Gymraeg o glasur Dolly Parton, Jolene, wedi cael ei rhyddhau, gyda’r eicon canu gwlad yn ymuno â’i nith Jada Star a’r Gymraes Bronwen Lewis ar y trac.

Bu farw Parton, sydd hefyd yn adnabyddus am ganeuon fel 9 to 5 ac I Will Always Love You, ym mis Awst, ond roedd wedi recordio’r trac cyn ei marwolaeth.

Fersiwn ddwyieithog mewn Cymraeg a Saesneg ydy’r recordiad newydd, mewn gwirionedd, gyda lleisiau Parton, Jada Star a Bronwen wedi plethu â’i gilydd.

Ar un pwynt yn y trac, gafodd ei ryddhau ddydd Gwener, mae Parton yn dweud fod “torcalon yr un peth mewn unrhyw iaith.”

Recordiodd Parton ei rhan hi mewn stiwdio yn Nashville, Tennessee, gyda chyfarwyddwyd sut i ynganu'r cyfieithiad Cymraeg. Cafodd rhannau’r ddwy gantores arall eu cwblhau ym Mhrydain.

‘Anhygoel’

Gwraidd y gân newydd oedd fideo o Bronwen yn canu cyfieithiad o Jolene aeth yn feiral ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ar ôl gweld y clip, cysylltodd Jada Star, sy’n ferch i chwaer Dolly, gyda Bronwen - ac yn y pendraw, awgrymodd bod y ddwy’n recordio fersiwn ar y cyd.

Wedyn, holodd ei modryb - a dyma Dolly’n cytuno i gyfrannu i’r recordiad.

Dywedodd Bronwen cyn rhyddhau’r trac fod “dagrau llawenydd” yn rhedeg lawr ei hwyneb wrth iddi ffonio’i mam i ddweud yr hanes.

“I glywed Dolly yn canu mewn iaith arall - ac yn Gymraeg am y tro cyntaf erioed - roedd yn anhygoel,” ychwanegodd.

Mae gan deulu Parton gysylltiad teuluol pell â Chymru, gydag ymchwil diweddar yn awgrymu fod ei chyndeidiau ar ochr ei mam yn dod o ardal Machynlleth.

Prif lun: Yui Mok/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.