Cwm Cynfal: Her gyfreithiol yn 'atal cynllun hydro' dadleuol yn Eryri

 Cwm Cynfal

Fe fydd cynllun ynni hydro dadleuol yng Ngwynedd yn cael ei atal yn dilyn her gyfreithiol, yn ôl Cymdeithas Eryri a'u cyfreithwyr.

Dywedodd y gymdeithas mewn datganiad fod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cytuno y dylid diddymu'r penderfyniad i roi caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad yng Nghwm Cynfal ger Llan Ffestiniog.

Gallai'r cais ddychwelyd gerbron pwyllgor cynllunio'r awdurdod mor fuan â mis Tachwedd, yn ôl y gymdeithas.

Byddai'r cynllun arfaethedig ger Llan Ffestiniog yn golygu dargyfeirio hyd at 70% o'r dŵr oddi wrth Raeadr y Cwm ar adegau er mwyn cynhyrchu trydan.

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol yn gwrthwynebu'r datblygiad oherwydd pryderon am ei effaith ar y rhaeadr a'r bywyd gwyllt yn yr ardal.

Fe gafodd y cynllun, a gyflwynwyd gan y brodyr Elis Dafydd, Moi Dafydd a Dafydd Elis o'r Bala, ei gymeradwyo gan bwyllgor cynllunio'r awdurdod ar 24 Mehefin o wyth pleidlais i saith.

Dywedodd Moi Dafydd ar ran y brodyr wrth Newyddion S4C eu bod yn fwy penderfynol nag erioed o fwrw ymlaen â'r datblygiad.

"Mae’n rhwystredig bod hyn wedi digwydd. Rydym yn fwy penderfynol nag erioed o fwrw ymlaen â’r cynllun. Nid oes gan Cyfoeth Naturiol Cymru, y corff statudol sy’n gyfrifol am warchod yr amgylchedd, unrhyw wrthwynebiad i’r cynllun.

"Nid oes unrhyw reswm pam na all y cynllun gael ei gymeradwyo unwaith eto gan y pwyllgor cynllunio."

Ychwanegodd fod y cynllun yn cael cefnogaeth yn lleol, a'u bod wedi derbyn nifer o sylwadau yn eu hannog i fwrw ymlaen.

Her gyfreithiol

Ar 26 Awst, fe gyflwynodd Cymdeithas Eryri gais am adolygiad barnwrol o'r penderfyniad, y tro cyntaf i'r gymdeithas gymryd cam o'r fath yn ei hanes 60 mlynedd.

Roedd y gymdeithas a'u cyfreithwyr, Landmark Chambers, yn dadlau bod yr awdurdod wedi camddehongli neu gamddefnyddio gofynion Polisi Cynllunio Cymru ynghylch datblygiadau sy'n effeithio ar safleoedd gwarchodedig.

Yn benodol, roedd yn dadlau nad oedd aelodau'r pwyllgor wedi cael gwybod am ofyniad i sicrhau cytundeb eang a chlir ar fesurau i liniaru effeithiau datblygiad a gwella'r amgylchedd.

Mae'r awdurdod bellach wedi derbyn un o'r dadleuon cyfreithiol a gyflwynwyd gan y gymdeithas ac wedi cytuno y dylid diddymu'r penderfyniad gwreiddiol, yn ôl y gymdeithas a'r cyfreithwyr.

Mewn ymateb i Newyddion S4C, dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

"Ildiodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i’r sail gyntaf o’r her yn unig ac mae’n cydnabod na hysbyswyd y Pwyllgor Cynllunio a Mynediad nad yw’r cynnig yn cydymffurfio ag adran o Bolisi Cynllunio Cymru a oedd yn ystyriaeth faterol wrth wneud penderfyniad ynghylch y cais.

"Mae hyn yn fater y dylid bod wedi gwneud yr aelodau’n ymwybodol ohono."

Beth nesaf?

Mewn diweddariad ddydd Mercher, fe gadarnhaodd Cymdeithas Eryri ei bod yn disgwyl i'r cais cynllunio ddychwelyd gerbron Pwyllgor Cynllunio a Mynediad yr awdurdod, o bosibl cyn gynted â 25 Tachwedd.

"Unwaith y bydd [Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri] wedi mynd i’r afael â’r pwynt cyfreithiol penodol dan sylw, rydym yn disgwyl i’r cais ddychwelyd at y Pwyllgor Cynllunio a Mynediad mwy eu lai fel yr oedd o’r blaen – ac efallai mor fuan â’r 25ain o Dachwedd," meddai'r gymdeithas.

"Os bydd y bleidlais yn mynd yr un ffordd am yr eildro, mae’n debygol iawn y byddwn yn gwneud ail gais am Adolygiad Barnwrol."

Ond dywedodd yr awdurdod nad oes dyddiad wedi'i bennu eto ar gyfer ailystyried y cais.

"Rydym yn aros am gadarnhad gan y Llys fod y caniatâd wedi ei ddiddymu’n swyddogol. Nid oes amserlen wedi ei llunio eto ar gyfer ail-gyflwyno’r cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Mynediad."

Mae'r gymdeithas yn pwysleisio nad yw'r awdurdod wedi derbyn y rhan fwyaf o'i dadleuon cyfreithiol eraill.

Mae dros £17,000 wedi'i godi gan gefnogwyr tuag at gostau cyfreithiol yr ymgyrch hyd yma, ond mae'r gymdeithas yn rhybuddio y gallai cost adolygiad barnwrol llawn fod yn fwy na £60,000.

Fe wnaeth y brodyr sydd tu ôl i'r cynllun, Elis Dafydd, Moi Dafydd a Dafydd Elis feirniadu'r gwariant ar y broses gyfreithiol, gan ddadlau y byddai'n well defnyddio'r arian i gefnogi'r economi leol.

"Mae’n hynod o drist bod adnoddau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cael eu gwario ar gostau cyfreithiol sylweddol.

"Mae’r ffaith bod Cymdeithas Eryri yn defnyddio tîm cyfreithiol o Lundain yn golygu bod arian yn gadael Cymru yn hytrach na chael ei ailfuddsoddi yn economi Cymru, gan gefnogi busnesau a swyddi lleol."

Yn ôl y brodyr byddai'r safle hydro yn gallu cynhyrchu digon o drydan ar gyfer tua 700 o gartrefi.

Cafodd tua 1,590 o wrthwynebiadau eu cyflwyno yn ystod y broses gynllunio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.