Dedfrydu dyn am ladd dynes ifanc 'unigryw' o Sir Gâr drwy yrru'n ddiofal
Mae dyn 35 oed wedi cael ei ddedfrydu i 14 mis o garchar ar ôl pledio'n euog i ladd ei gariad drwy yrru'n ddiofal ar yr A470.
Bu farw Charlotte Beynon, oedd yn 32 oed ac o Borth Tywyn yn Sir Gaerfyrddin, yn sgil y gwrthdrawiad rhwng car a phont ar gyrion Rhaeadr Gwy ym Mhowys ar 3 Rhagfyr, 2024.
Roedd Ms Beynon yn deithiwr yn y car BMW M235 a bu farw yn yr ysbyty ychydig ddyddiau wedi'r digwyddiad.
Cafodd y gyrrwr, David William Owen o Lanidloes, ei garcharu mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Mercher.
Roedd Owen eisoes wedi pledio'n euog i gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal. Cafodd ei ddedfrydu i 12 mis o garchar am y cyhuddiad hwnnw, gyda dau fis ychwanegol yn deillio o ddigwyddiad yn Ionawr 2026 pan gafodd ei arestio am yrru dan ddylanwad cyffuriau.
Yn ôl adroddiadau gan newyddiadurwyr yn y llys, dywedodd cyfreithwyr Owen ei fod wedi dangos edifeirwch am y digwyddiad, gan ychwanegu mai Charlotte oedd "cariad mawr ei fywyd" a'i fod wedi gobeithio priodi a magu plant gyda hi.
Wedi'r dedfrydu, dywedodd y Cwnstabl Lucy Brookes o Heddlu Dyfed-Powys: "Mae'r ddedfryd heddiw yn nodi diwedd ymchwiliad hir i wrthdrawiad a achosodd farwolaeth drasig dynes ifanc.
"Roedd Charlotte wedi cyffwrdd bywyd cymaint o bobl a bydd hi'n cael ei cholli am byth. Mae teulu Charlotte wedi dangos cryfder mawr drwy gydol yr ymchwiliad hwn - teyrnged addas i fywyd a ddaeth i ben yn rhy fuan.
"Mae'r digwyddiad hwn yn atgof fod y penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud tu ôl i'r llyw yn gallu arwain at oblygiadau erchyll sy'n newid bywydau."
Merch 'unigryw'
Wrth roi teyrnged i Charlotte wedi'r digwyddiad yn 2024, dywedodd ei theulu ei bod yn ferch "unigryw" a "hollol brydferth."
“Roedd Charlotte yn hollol unigryw, yn ddoniol heb sylweddoli hynny, yn hollol brydferth y tu mewn a’r tu allan gyda chariad at fywyd, anifeiliaid, ffrindiau, teulu a chydweithwyr," meddai ei hanwyliaid.
“Byddwn yn gweld eisiau Charlotte bob eiliad o’n bywydau ond ry'n ni'n yn cael ein cysur o gwybod, ar ôl ymladd brwydr galed, ei bod bellach mewn heddwch gyda'i diweddar dad yr oedd hi’n ei drysori a’i golli bob dydd."
