Arweinwyr y Blaid Werdd yng Nghymru yn beirniadu cynnig gwrth-Seionaidd
Mae arweinydd a dirprwy arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru wedi beirniadu cynnig yng nghynhadledd y blaid i ddiffinio Seioniaeth (Zionism) fel math o hiliaeth.
Daw wedi i'r cynnig a oedd yn datgan bod y Blaid Werdd yn “blaid wrth-Seionaidd” ddenu beirniadaeth Prif Weinidog Cymru yn y Senedd ddydd Mawrth.
Roedd y cynnig yng nghynhadledd y Blaid Werdd yn nodi fel rhan o bolisi’r blaid y byddai Seioniaeth, y mudiad i ddatblygu a diogelu gwladwriaeth Iddewig yn Israel, yn cael ei “thrin fel unrhyw fath arall o hiliaeth”.
Dywedodd yr aelod o Senedd Cymru ac arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Anthony Slaughter, mewn datganiad nad oedd yn “addas” galw am ddatrysiad un wladwriaeth yn y rhanbarth.
“Fel rwyf wedi dweud o’r blaen, rwy’n dal yn gadarn at fy nghred nad oes gwrthdaro rhwng cefnogi hawliau pobl Palesteina a hawliau pobl Iddewig,” meddai.
“Mae’r Blaid Werdd bob amser wedi sefyll dros hawliau dynol i bawb, a fy nghyfrifoldeb i fel arweinydd Plaid Werdd Cymru yw sicrhau bod ein plaid yn sefyll dros ddiogelwch a rhyddid i bawb.
“Does gennym ni ddim cywilydd o’n record, ac rydym yn sefyll wrth bopeth rydym wedi’i ddweud wrth feirniadu gweithredoedd Llywodraeth Israel a byddin Israel.
“Rydym yn sefyll wrth ein sylwadau blaenorol yn galw’r hil-laddiad parhaus gan wladwriaeth apartheid yn union beth ydyw, ac yn tynnu sylw at ran Llywodraeth y DU ynddo.
“Nid yw hyn mewn unrhyw ffordd yn lleihau ein hymrwymiad llwyr i roi diwedd ar bob math o gasineb a gwrthsemitiaeth.
“Mae pawb yn haeddu’r hawl i fywyd diogel yn eu cymuned, beth bynnag fo’u cefndir neu eu ffydd.
“Ein gwaith ni fel Aelodau o’r Senedd dros y Blaid Werdd yw gwella bywydau pawb yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i wneud hynny.”
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd dirprwy arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Philip Davies, ei fod yn “gynnig gwirion”.
Doedd o “ddim yn cyflawni dim heblaw gwneud i rai pobl deimlo’n dda amdanyn nhw eu hunain, gan achosi niwed enfawr i’r blaid ar yr un pryd,” meddai.
“Y bobl yn yr ardaloedd dan sylw ddylai benderfynu ar eu dyfodol eu hunain. Nid pobl ym Mhrydain ddylai ddweud wrthyn nhw sut i wneud hynny.
“Yn yr un modd, fyddwn i ddim eisiau i bobl yn Lloegr benderfynu ar ddyfodol Cymru.
“Roedd ein safbwynt ar wladwriaeth Israel yn cyflawni hil-laddiad a’n cefnogaeth gyffredinol i bobl Palesteina eisoes yn glir.
“Mae gen i broblemau eraill gyda Phlaid Werdd Cymru a Lloegr, ac rwyf wedi bod yn ymgyrchu o fewn y blaid ers amser maith i ni adael a dod yn blaid annibynnol.”
‘Dwy wladwriaeth’
Mae gan y Blaid Werdd ddau aelod yn y Senedd. Fe wnaeth y ddau bleidleisio dros Rhun ap Iorwerth i fod yn Brif Weinidog ar ôl yr etholiad ym mis Mai.
Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Prif Weinidog Cymru fod polisi y Blaid Werdd yn un “annoeth”.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth nad oedd yn “cytuno” â’r cynnig gafodd gefnogaeth aelodau yng nghynhadledd y Blaid Werdd ddydd Sul. Ychwanegodd ei fod yn credu mewn datrysiad dwy wladwriaeth.
Wrth siarad yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog ddydd Mawrth, dywedodd Helen Jenner, arweinydd Reform yng Nghymru: “Y penwythnos diwethaf, fe wnaeth Plaid Werdd Cymru a Lloegr fabwysiadu polisi’n ffurfiol sy’n dweud bod Seioniaeth yn hiliaeth.
“Safbwynt swyddogol y Blaid Werdd yw nad ydyn nhw eisiau i wladwriaeth Israel fodoli, ac mae Plaid Cymru wedi sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â’r Blaid Werdd a’u rhethreg wrth-Israel mewn ffordd gywilyddus.
“Brif Weinidog, yn ystod yr ymgyrch etholiadol, roeddech chi’n honni mai gyda’r Blaid Werdd yr oedd gennych chi fwyaf yn gyffredin.
“Gan eu bod nhw wedi mynd i gyfeiriad sy’n gwahanu pobl, hoffwn i ofyn: Ydych chi’n credu bod cefnogi bodolaeth gwladwriaeth Iddewig ynddo’i hun yn hiliol, ydych chi neu nac ydych chi?”
Dywedodd Mr ap Iorwerth: “Rydw i bob amser wedi cefnogi’r datrysiad dwy wladwriaeth, ac rwy’n credu bod y penderfyniad gafodd ei wneud yng nghynhadledd y Blaid Werdd yn annoeth.
“Dydw i ddim yn cytuno â’r cynnig hwnnw.”
Ychwanegodd: “Rwy’n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â’r cymunedau Iddewig yng Nghymru ac yn sefyll yn erbyn gwrthsemitiaeth, fel rwy’n ei wneud yn erbyn Islamoffobia.”
Mae Newyddion S4C wedi holi Plaid Werdd Cymru a’r Blaid Werdd yng Nghymru a Lloegr am ymateb.
