Llywodraeth yn dod i gytundeb gyda chwmni i ail-ddechrau cynhyrchu CO2

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dod i gytundeb gyda'r cwmni Americanaidd CF Industries i ail-ddechrau cynhyrchu carbon deuocsid yn Swydd Gaer a Teeside.
Bu'r Ysgrifennydd Busnes, Kwasi Kwarteng, yn cyfarfod gyda'r cwmni gwrtaith dros y penwythnos, ar ôl atal cynhyrchu ddydd Gwener ar eu safleoedd yn y DU yn dilyn cynnydd mewn prisiau nwy naturiol ar draws y byd.
Mae'r oedi wedi arwain at argyfwng i rai cynhyrchwyr bwyd, gan fod CO2, sydd yn is-gynnyrch o gynhyrchu gwrtaith, wedi ei ddefnyddio'n aml wrth gynhyrchu bwyd yn y DU.
Mae'r nwy wedi ei ddefnyddio i lonyddu anifeiliaid i'w difa, i becynnu cig a salad, ac i garboneiddio cwrw a diodydd pefriog, yn ôl The Independent.
Nid yw'n glir ar hyn o bryd ar ba adeg y bydd y gwaith cynhyrchu'n dechrau unwaith eto.
Darllenwch y diweddaraf yma.
Llun: Policy Exchange