Andrew Mountbatten-Windsor yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Heddlu Dyffryn Tafwys

Andrew

Mae Andrew Mountbatten-Windsor yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Heddlu Dyffryn Tafwys mewn ymgais i ddiddymu gwarantau chwilio (search warrants) a arweiniodd at ei arestio. 

Bydd gwrandawiad preifat yn yr Uchel Lys ddydd Iau, yn ôl llefarydd ar ran y farnwriaeth.

Cafodd cyn-Ddug Efrog ei arestio ar ei ben-blwydd yn 66 oed yn gynharach eleni ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus. 

Daeth hynny ar ôl honiadau ei fod wedi rhannu gwybodaeth sensitif â Jeffrey Epstein yn ystod ei gyfnod fel llysgennad masnach y DU.

Roedd y Telegraph wedi adrodd yn flaenorol fod Andrew wedi cael caniatâd i herio a oedd Heddlu Dyffryn Tafwys wedi gweithredu’n gyfreithlon wrth gynnal y chwiliadau oedd yn gysylltiedig â’i arestio ym mis Chwefror.

Fe wnaeth barnwr yn yr Old Bailey gyhoeddi gwarantau oedd yn caniatáu i’r heddlu chwilio cartref Andrew ar Stad Sandringham a’i hen gartref yn Windsor, Royal Lodge.

Ddydd Llun, fe wnaeth llefarydd ar ran y farnwriaeth gadarnhau y bydd gwrandawiad yn achos cyfreithiol Andrew yn cael ei gynnal am 14.00 ddydd Iau yn yr Uchel Lys, gerbron y Barnwr Hilliard.

Dywedodd y llefarydd y bydd y gwrandawiad yn ystyried cais gan Heddlu Dyffryn Tafwys i gyfyngu ar fynediad at ddogfennau’r llys. 

Bydd y gwrandawiad yn dechrau’n breifat.

Nid yw’n hysbys a fydd Andrew yn bresennol yn y gwrandawiad.

Cafodd Andrew ei arestio ar 19 Chwefror a’i gyfweld dan rybudd (under caution) cyn cael ei ryddhau tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Mae’r diffiniad cyfreithiol o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus yn eang. 

Gall gynnwys rhannu gwybodaeth ariannol gyfrinachol, camymddwyn ariannol, esgeuluso dyletswydd yn fwriadol a chamymddwyn rhywiol.

Mae hefyd yn cynnwys llygredd ac ymyrryd yn amhriodol, gwrthdaro buddiannau, gwyrdroi cwrs cyfiawnder, anonestrwydd neu ymddygiad twyllodrus, a chamymddwyn sy’n arwain at fudd personol.

Fe wnaeth Andrew gyhoeddi ei fod yn ildio ei holl deitlau, yn cynnwys ei deitl brenhinol mwyaf adnabyddus, Dug Efrog, ym mis Hydref y llynedd.

Yn ogystal â theitl 'Dug Efrog', roedd gan y Tywysog Andrew, ddau deitl anrhydeddus arall, sef Iarll Inverness a Barwn Killyleagh.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.