Cwmni Americanaidd i agor ei fwyty gyrru drwodd cyntaf yn y DU yng ngogledd Cymru
Bydd cadwyn fwytai Americanaidd yn agor ei bwyty gyrru drwodd cyntaf yn y DU yng ngogledd Cymru ddydd Mawrth.
Bydd bwyty Slim Chickens yn agor ym Mharc Siopa Brychdyn ar 6 Hydref.
Mae Slim Chickens yn gadwyn fwytai sy'n arbenigo mewn stribedi cyw iâr, adenydd cyw iâr, brechdanau, saladau, wraps, cyw iâr gyda wafflau a bwydydd eraill.
Bydd y safle ym Mrychdyn yn fodel ar gyfer rhagor o fwytai o’r fath ledled y wlad, meddai Rich Pigott, rheolwr gyfarwyddwr Boparan Restaurants, sy’n gyfrifol am Slim Chickens yn y DU.
Dywedodd fod y grŵp yn bwriadu agor rhwng 15 ac 20 o safleoedd ar draws y DU y flwyddyn nesaf. Bydd rhwng 800 a 1,000 o swyddi yn cael eu creu meddai.
Bwytai gyrru drwodd fydd y rhan fwyaf ohonyn nhw.
Agorodd y cwmni ei fwyty cyntaf yn y DU yn 2018.
'Cynlluniau uchelgeisiol'
“Mae gennyn ni gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer bwytai gyrru drwodd, ac mae Brychdyn yn rhoi cyfle i ni gymryd popeth mae pobl yn ei garu am Slim Chickens… a’i gynnig i gwsmeriaid mewn ffordd hollol newydd,” meddai.
Ychwanegodd mai “dim ond y dechrau yw hyn i fwytai gyrru drwodd Slim Chickens yn y DU”.
Cafodd Slim Chickens ei sefydlu yn Fayetteville, Arkansas, yn yr Unol Daleithiau. Mae ei gadwyn yn America yn canolbwyntio’n bennaf ar fwytai gyrru drwodd.
Dywedodd Mr Pigott: “Mae’n gyfleus i bobl fynd i fwyty gyrru drwodd a mynd â bwyd adref.”
Dywedodd fod y farchnad yn y sector lletygarwch yn gystadleuol, gyda defnyddwyr dan bwysau wrth i gostau ynni a thanwydd godi’n sylweddol.
“Bydd pobl yn gwario llai er mwyn lleihau eu biliau,” meddai. “Ond byddan nhw’n dal eisiau mynd allan.
“Efallai y bydd pobl yn cwtogi ar fynd i fwyty ddwywaith neu dair gwaith yr wythnos i unwaith yr wythnos. Felly mae’n rhaid i chi fod y gorau yn y farchnad i sicrhau bod pobl yn dod atoch chi.”
