Mari Grug yn ennill gwobr Cyflwynydd Gorau BAFTA Cymru

Mari Grug
Mari Grug

Mae Mari Grug ymhlith prif enillwyr Gwobrau BAFTA Cymru nos Sul, gyda Matthew Rhys a nifer o gynyrchiadau Cymraeg hefyd yn cipio gwobrau.

Enillodd Mari Grug y wobr Cyflwynydd am Mari Grug: Un Dydd ar y Tro.

Roedd y rhaglen ddogfen yn dilyn ei stori wedi iddi gael diagnosis o ganser a’i phrofiad o gael triniaeth, gan roi golwg bersonol ar y cyfnod hwnnw yn ei bywyd.

Yr enwebiadau eraill yn yr un categori oedd Sian Eleri am Keep the World Away - Finding Gwen John a Huw Stephens am Other Voices: Cardigan 2025 with Huw Stephens.

  • Image
    Matthew Rhys
    Matthew Rhys (Netflix)

Enillodd yr actor Matthew Rhys y wobr Actor am ei berfformiad fel Nile Jarvis yn y gyfres Netflix The Beast in Me.

Daw’r llwyddiant lai na mis wedi iddo ennill dwy wobr Emmy, un am ei berfformiad yn The Beast in Me a’r llall am ei rôl yn y gyfres gomedi Widow’s Bay.

Daeth yn ddyn cyntaf yn hanes yr Emmys i ennill gwobrau prif actor mewn dau gategori gwahanol yn yr un flwyddyn.

Roedd yn noson lwyddiannus hefyd i Y Golau: Dŵr, a enillodd y wobr Drama Deledu.

Daeth ail wobr i’r gyfres wrth i Mali Evans ennill y wobr Golygu am ei gwaith ar y cynhyrchiad.

Roedd Stori’r Iaith hefyd ymhlith yr enillwyr, gan gipio’r wobr Cyfres Ffeithiol.

Mae’r gyfres, sy’n cael ei chyflwyno gan Sarra Elgan, yn archwilio’r Gymraeg, ei hanes a’r bobl sy’n cadw’r iaith yn fyw, gyda’r gyfres ddiweddaraf yn edrych ar ei chysylltiad â chwaraeon a hunaniaeth.

Enillodd Foden: O Brifathro i Bedoffeil y wobr Newyddion a Materion Cyfoes.

Roedd y rhaglen ddogfen yn edrych ar achos Neil Foden, y cyn-brifathro gafodd ei garcharu am droseddau rhyw yn erbyn pedair merch, ac ar gwestiynau ynghylch sut y cafodd ymddwyn fel yr oedd am flynyddoedd.

Image
Y golau
Gwobr Drama Deledu - Y Golau

Roedd dwy wobr i Y Crwydryn, gyda’r cynhyrchiad yn ennill y wobr Dogfen Sengl a Rhys Edwards yn cipio’r wobr Cyfarwyddwr: Ffeithiol.

Aeth y wobr Rhaglen Adloniant i Amour a Mynydd, tra bod Itopia wedi ennill y wobr Rhaglen Plant.

Mae Itopia yn serennu Leisa Gwenllian, sydd wedi denu canmoliaeth yn ddiweddar am ei pherfformiad yn y ffilm Effi o Flaenau.

Aeth y wobr Ffilm Nodwedd / Ffilm Deledu i Mr Burton, sy’n adrodd hanes blynyddoedd cynnar Richard Burton a’i berthynas â’i athro Philip Burton ym Mhort Talbot.

Roedd dwy wobr hefyd i The Guest. Enillodd Gabrielle Creevy wobr Actores, sef gwobr olaf y noson, tra bod Matthew Barry wedi ennill y wobr Awdur am y gyfres.

Image
The Guest
The Guest (BBC)

Enillodd Gareth Bryn y wobr Cyfarwyddwr: Ffuglen am Karen Pirie, a Gofod Ymennydd - Brain Space y wobr Ffilm Fer.

Cafodd y cyfarwyddwr castio Lauren Evans, sy’n wreiddiol o Hendy yn Sir Gaerfyrddin, ei hanrhydeddu gyda Gwobr BAFTA Cymru am Gyfraniad Eithriadol i Grefft.

Mae hi wedi gweithio ar gynyrchiadau gan gynnwys Game of Thrones, Sex Education a Lost Boys & Fairies, ac enillodd wobr BAFTA am ei gwaith castio ar I Swear yn gynharach eleni.

Cafodd y gyflwynwraig Carol Vorderman Wobr Siân Phillips am Gyfraniad Eithriadol i Deledu.

Magwyd Vorderman yng ngogledd Cymru cyn dod yn enw cyfarwydd drwy Countdown, ac mae’r wobr yn cydnabod gyrfa ym myd teledu sydd wedi ymestyn dros bedwar degawd.

Enillwyr y noson

  • Actores: Gabrielle Creevy - The Guest
  • Actor: Matthew Rhys - The Beast in Me
  • Cyflwynydd: Mari Grug - Mari Grug: Un Dydd ar y Tro
  • Drama Deledu: Y Golau: Dŵr
  • Golygu: Mali Evans - Y Golau: Dŵr
  • Cyfres Ffeithiol: Stori’r Iaith
  • Newyddion a Materion Cyfoes: Foden: O Brifathro i Bedoffeil
  • Dogfen Sengl: Y Crwydryn
  • Rhaglen Adloniant: Amour a Mynydd
  • Rhaglen Plant: Itopia
  • Ffilm Nodwedd / Ffilm Deledu: Mr Burton
  • Ffilm Fer: Gofod Ymennydd - Brain Space
  • Awdur: Matthew Barry - The Guest
  • Cyfarwyddwr: Ffeithiol: Rhys Edwards - Y Crwydryn
  • Cyfarwyddwr: Ffuglen: Gareth Bryn - Karen Pirie
  • Cyfraniad Eithriadol i Grefft: Lauren Evans
  • Sain: Tîm sain Havoc
  • Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen: Adam Scarth - Under Salt Marsh
  • Gwobr Siân Phillips am Gyfraniad Eithriadol i Deledu: Carol Vorderman

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.