Ceredigion: Cau traeth poblogaidd i warchod morlo ifanc

S4C
Mae un o draethau poblogaidd Ceredigion ar gau i'r cyhoedd am y tro er mwyn gwarchod morlo ifanc a'i fam.
 
Cyhoeddodd cangen Llanerchaeron o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fod y cam o gau y traeth wedi ei gymeryd "er mwyn lleihau aflonyddwch ac osgoi straen i'r fam a'r morlo bach".
 
Mae traeth Penbryn gerllaw yn parhau i fod ar agor, ac mae'r Ymddiriedolaeth wedi diolch i'r cyhoedd am eu dealltwriaeth wrth iddynt "ofalu am fyd natur a bywyd gwyllt ledled Ceredigion".
 
Mae traeth Mwnt, sydd rhyw 4.5 milltir i'r gogledd o Aberteifi, yn lecyn poblogaidd i ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn.
 
Fe allai fod ar gau am nifer o wythnosau wrth i forloi fridio yno rhwng mis Awst a mis Rhagfyr.
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.