Arestio tri wedi ymosodiad honedig ar stryd yn Hwlffordd

Hwlffordd

Mae tri o bobl wedi cael eu harestio ar ôl ymosodiad honedig yn Hwlffordd brynhawn dydd Gwener.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys wybod am y digwyddiad ar Stryd y Cei tua 16.50.

Cafodd un person ei gludo i’r ysbyty am driniaeth ac mae tri o bobl wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Roedd yr heddlu wedi gofyn i aelodau’r cyhoedd gadw draw o’r ardal tra bod swyddogion yn cynnal ymholiadau.

Dywedodd y llu nad oes unrhyw risg ehangach i’r cyhoedd yn dilyn y digwyddiad.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad y tu allan i dafarn The William Owen i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.