Cymru Premier: Caernarfon a’r Barri mewn brwydr allweddol yn y Chwech Uchaf

Y Barri

Y Seintiau Newydd sy’n arwain y ffordd yn y Cymru Premier wedi’r 11 gêm agoriadol, ac mae’r pencampwyr bedwar pwynt yn glir o Pen-y-bont, sef yr unig ddau glwb sydd heb golli gêm hyd yma.

Cei Connah, Caernarfon, Bae Colwyn a’r Barri yw’r timau eraill sy’n llenwi’r Chwech Uchaf, sef yr union glybiau a gyrhaeddodd y nod y tymor diwethaf.

Bydd y gêm rhwng Cei Connah a Pen-y-bont, a’r ornest rhwng Caernarfon a’r Barri, yn allweddol tua’r brig felly.

Ar ôl curo Hwlffordd yng nghanol wythnos, bydd Met Caerdydd yn mentro i Landudno gyda’r ddau glwb yn gobeithio gwthio am le ymysg y Chwech Uchaf.

Ar waelod y tabl, mi fydd hi’n frwydr hollbwysig rhwng y ddau dîm isaf wrth i Rydaman a Threffynnon gyfarfod am y tro cyntaf erioed.

Dydd Sadwrn, 3 Hydref

Airbus UK Brychdyn (10fed) v Trefelin (14eg) | Dydd Sadwrn – 14:30

Airbus yw’r unig dîm yn y gynghrair sydd heb gael gêm gyfartal hyd yma, ac mi fydd carfan Mark Allen yn croesawu Trefelin i’r Maes Awyr, un o’r tri chlwb sydd eto i ennill gêm y tymor yma.

Er dechrau’n gryf, mae Airbus wedi colli tair o’u pedair gêm ddiwethaf, ac mi fydd bechgyn Brychdyn yn llygadu triphwynt brynhawn Sadwrn.

Ar ôl ennill pencampwriaeth y de y tymor diwethaf, mae canlyniadau Trefelin wedi bod yn siomedig eleni ac mae tîm Andy Hill yn dal i aros am eu buddugoliaeth gyntaf yn yr uwch gynghrair (cyfartal 3, colli 8).

Hon fydd yr ornest gyntaf rhwng y clybiau ers i Airbus guro Trefelin o 3-2 yn rownd derfynol Cwpan Gwasanaeth Cymru (Cwpan Clybiau’r Ail Haen) ym mis Ebrill 2025.

Record cynghrair diweddar:
Airbus UK: ͏✅❌❌✅❌
Trefelin: ͏➖❌❌➖❌

Caernarfon (4ydd) v Y Barri (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Un pwynt yn unig sy’n gwahanu Caernarfon a’r Barri, gyda’r ddau glwb yn anelu i orffen yn y Chwech Uchaf am yr ail dymor o’r bron.

Llwyddodd Caernarfon i fynd drwy fis Medi heb golli gêm (ennill 3, cyfartal 2), gan sicrhau eu buddugoliaeth fwyaf erioed yn yr uwch gynghrair yn eu gêm gartref ddiwethaf (Caernarfon 9-1 Cambrian).

Zack Clarke yw prif sgoriwr y gynghrair gyda 11 o goliau, ac mae blaenwr y Cofis hefyd wedi creu pedair gôl i’w dîm.

Dyw pethau heb fynd cystal i’r Barri, a oedd ar frig y tabl ddechrau mis Medi, cyn colli yn erbyn y Seintiau a mynd ymlaen i ennill dim ond unwaith yn ystod y mis (cyfartal 1, colli 3).

Enillodd y Barri eu dwy gêm yn erbyn Caernarfon wedi’r hollt y tymor diwethaf, ond bydd y Cofis yn anelu i orffen uwchben y Dreigiau’r tymor hwn.

Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ͏✅✅➖✅➖
Y Barri: ͏❌✅➖❌❌

Cei Connah (3ydd) v Pen-y-bont (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30

Dim ond dau bwynt sy’n gwahanu Cei Connah a Pen-y-bont, ac felly mi fydd y Nomadiaid yn gweld eu cyfle i godi i’r ail safle brynhawn Sadwrn.

Dyw Cei Connah heb golli gartref ers gêm gyntaf y tymor yn erbyn Caernarfon, gan ildio dim ond un gôl mewn pum gêm ar Gae y Castell ers hynny.

Mae Pen-y-bont ar rediad cryfach fyth, gyda’r Gleision wedi ennill pum gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf ers dwy flynedd.

Mae Callum West wedi serennu i Gei Connah ar ddechrau’r tymor, ac ar ôl sgorio chwech a chreu naw, mae prif grëwr y gynghrair yn hafal â Zack Clarke ar frig y rhestr cyfraniadau goliau (15).

Gall Cei Connah gymryd hyder o’r ffaith nad ydyn nhw wedi colli yn eu pedair gêm ddiwethaf yn erbyn Pen-y-bont (ennill 3, cyfartal 1), gyda thîm Rhys Griffiths wedi sgorio dim ond unwaith ar draws y pedair gêm.

Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ͏➖❌✅✅✅
Pen-y-bont: ͏✅✅✅✅✅

Hwlffordd (11eg) v Y Fflint (13eg) | Dydd Sadwrn – 14:30

Y penwythnos diwethaf, yn ei gêm gyntaf fel rheolwr y Fflint, fe lwyddodd Danny Holmes i arwain y Sidanwyr i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf y tymor hwn (Y Fflint 3-0 Rhydaman).

Cyn y triphwynt ddydd Sadwrn diwethaf, doedd y Fflint heb ennill gêm gynghrair ers 1 Mawrth, pan enillon nhw o 3-1 oddi cartref yn Hwlffordd.

Tydi Hwlffordd heb gael dechrau da i’w tymor, gyda’r Adar Gleision hefyd yn eistedd yn y Chwech Isaf ar ôl colli ddwywaith o fewn tridiau (Bae Colwyn 1-0 Hwlffordd, Met Caerdydd 1-0 Hwlffordd).

Fe wnaeth y timau gyfarfod bedair gwaith y tymor diwethaf, gyda Hwlffordd yn ennill ddwywaith, colli unwaith a chael un gêm gyfartal, ac mae’r blaenwr Ben Ahmun wedi sgorio yn ei dair gêm ddiwethaf yn erbyn y Sidanwyr.

Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ͏➖✅✅❌❌
Y Fflint: ͏❌➖❌❌✅

Llandudno (9fed) v Met Caerdydd (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Roedd hi’n fuddugoliaeth fawr i Met Caerdydd yng nghanol wythnos (Met Caerdydd 1-0 Hwlffordd), sy’n golygu bod y myfyrwyr ond wedi colli unwaith yn eu saith gêm gynghrair ddiwethaf (ennill 3, cyfartal 3).

Mae Llandudno, ar y llaw arall, yn parhau i lithro i lawr y tabl ar ôl sicrhau dim ond un pwynt o’u pedair gêm ddiwethaf.

Er hynny, dyw tîm Jordan Hadaway heb golli yn eu 25 gêm gartref ddiwethaf (ennill 24, cyfartal 1), ers colli 3-2 yn erbyn Bwcle ym mis Mawrth 2025.

Dyma’r tro cyntaf i’r clybiau gyfarfod ers 2019, pan enillodd y myfyrwyr deirgwaith yn olynol yn erbyn Llandudno.

Record cynghrair diweddar:
Llandudno: ͏✅❌➖❌❌
Met Caerdydd: ͏➖➖❌➖✅

Llansawel (12fed) v Bae Colwyn (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae Llansawel mewn lle gwael ar ôl hawlio dim ond dau bwynt o’u saith gêm ddiwethaf.

Er i’r Cochion gasglu pwynt yn eu dwy gêm ddiwethaf, bydd Andy Dyer yn siomedig fod ei garfan wedi methu â churo dau o’r newydd-ddyfodiaid sydd eto i ennill y tymor yma (Llansawel 1-1 Trefelin, Treffynnon 1-1 Llansawel).

Mae Bae Colwyn wedi ennill pedair gêm yn olynol, ac er bod y Gwylanod wedi ennill eu chwe gêm gartref y tymor hwn, dyw tîm Michael Wilde ond wedi ennill unwaith oddi cartref (0-5 yn erbyn Treffynnon).

Bydd Llansawel yn anelu am eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn erbyn Bae Colwyn wedi i’r clybiau gyfarfod am y tro cyntaf y tymor diwethaf, gyda’r Gwylanod yn ennill unwaith a chael un gêm gyfartal.

Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ͏❌❌❌➖➖
Bae Colwyn: ͏❌✅✅✅✅

Rhydaman (15fed) v Treffynnon (16eg) | Dydd Sadwrn – 14:30

Bydd y ddau dîm isaf yn y tabl yn cyfarfod am y tro cyntaf erioed ddydd Sadwrn mewn gêm dyngedfennol yn y ras i osgoi’r cwymp.

Mae Treffynnon wedi cael dechrau trychinebus i’r tymor, gan sicrhau dim ond dau bwynt o’r 33 posib a cholli pob un o’u gemau oddi cartref.

A does gan neb record gartref gwaeth na Rhydaman, sydd ond wedi cipio un pwynt ar Y Rec y tymor yma.

Dim syndod felly mai dyma’r ddau dîm sydd wedi ildio’r nifer fwyaf o goliau, a dau dîm sydd heb gadw llechen lân yn y gynghrair hyd yn hyn.

Record cynghrair diweddar:
Rhydaman: ͏❌❌➖❌❌
Treffynnon: ͏➖❌❌❌➖

Y Seintiau Newydd (1af) v Cambrian (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Wedi 10 buddugoliaeth yn olynol, mae’r Seintiau Newydd ar frig y tabl ac yn parhau’n ddi-guro y tymor hwn (ennill 10, cyfartal 1).

Mae golwr y pencampwyr, Nathan Shepperd, wedi llwyddo i gadw saith llechen lân mewn 11 gêm gynghrair, gan ildio dim ond pum gôl hyd yma.

Ar ôl dioddef colled drom o 9-1 yn erbyn Caernarfon, fe wnaeth Cambrian ymateb yn dda drwy drechu Llandudno o 4-3 y penwythnos diwethaf.

Mae ymosodwr Cambrian, Liam Eason, wedi disgleirio i dîm y Rhondda gan sgorio naw a chreu pedair gôl yn barod y tymor hwn.

Fe lwyddodd Cambrian i guro’r Seintiau yn rownd gynderfynol Cwpan y Gynghrair ym mis Tachwedd 2018, ond fe gafodd cewri Croesoswallt dalu’r pwyth yn ôl yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru ym mis Mawrth 2025 (Cambrian 0-5 YSN).

Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ͏✅✅✅✅✅
Cambrian: ͏➖✅✅❌✅

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.