Justin Trudeau yn ennill etholiad Canada ond yn brin o fwyafrif

Mae Justin Trudeau wedi ennill trydydd tymor fel prif weinidog Canada ond mi fethodd â sicrhau mwyafrif.
Fe enillodd y Rhyddfrydwyr mwy o seddi na’r un blaid arall, gyda 157, ond mae hyn 13 yn brin na’r 170 sydd ei angen ar gyfer mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin.
Bydd Mr Trudeau, 49, felly’n dibynnu ar bleidiau eraill i lywodraethu am yr eildro yn olynol, medd The Guardian.
Thank you, Canada — for casting your vote, for putting your trust in the Liberal team, for choosing a brighter future. We're going to finish the fight against COVID. And we're going to move Canada forward. For everyone.
— Justin Trudeau (@JustinTrudeau) September 21, 2021
Yn dilyn ei fuddugoliaeth, dywedodd y prif weinidog fod etholwyr wedi rhoi “mandad clir” wrth iddo geisio adfer y wlad wedi’r pandemig.
Fe nododd hefyd rhai o flaenoriaethau ei blaid, sef newid hinsawdd, tai fforddiadwy a gofal plant.
Daeth y blaid Geidwadol yn ail gyda 121 o seddi, gyda’r Democratiaid Newydd yn dilyn gyda 29, Bloc Québécois gyda 28 sedd, a’r Gwyrddion gyda dwy.
Darllenwch y stori’n llawn yma.