Newyddion S4C

Yr UDA i ganiatáu mynediad i deithwyr o Brydain sydd wedi eu brechu'n llawn

Sky News 20/09/2021
Teithwyr mewn maes awyr

Fe fydd teithwyr o Brydain a'r Undeb Ewropeaidd sydd wedi derbyn dau frechiad Covid-19 yn cael mynediad i'r Unol Daleithiau o fis Tachwedd meddai'r Tŷ Gwyn ddydd Llun.

Nid oedd modd i bobl deithio i'r UDA ers dechrau'r pandemig ym mis Mawrth 2020, ac yn dilyn y newyddion mae cyfranddaliadau cwmnïau teithio wedi codi'n sylweddol ar y farchnad stoc.

Bellach fe fydd modd i deithwyr o nifer fawr o wledydd y byd ymweld â'r UDA yn dilyn y cyhoeddiad, ond fe fydd angen prawf eu bod wedi derbyn dau frechiad Covid-19 a chanlyniad prawf negyddol o fewn tridiau i deithio medd Sky News.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.