Newyddion S4C

Cymuned Mayhill i rannu eu profiadau mewn adolygiad yn dilyn anhrefn mis Mai

20/09/2021
Glanhau Mayhill

Bydd aelodau o gymuned Waun Wen a Mayhill yn cael cyfle ddydd Llun i ymateb i’r digwyddiadau o anhrefn yn gynharach eleni.

Dyma’r tro cyntaf i’r gymuned leol gael cyfle i ddweud eu dweud o flaen panel annibynnol ar y cyd sy’n adolygu’r digwyddiadau ym mis Mai.

Dechreuodd y trais ar Ffordd Waun-Wen ar ôl gwylnos i ddyn lleol oedd wedi marw ar nos Iau 20 Mai.

Y gred yw bod hyd at 200 o unigolion wedi cymryd rhan yn yr anhrefn ar un cyfnod o'r noson. 

Cafodd ceir eu llosgi a ffenestri tai eu torri.

Bwriad yr adolygiad gan Heddlu De Cymru, Comisiynydd yr Heddlu a Chyngor Sir Abertawe, yw deall y rhesymau dros y digwyddiad o anhrefn a thrais.

Dywedodd Cyngor Sir Abertawe: “Mae digwyddiadau fel aflonyddwch mis Mai yn hynod anghyffredin yn Abertawe. Daeth cymdogion, arweinwyr cymunedol ac awdurdodau at ei gilydd i ddarparu cymorth i’r gymuned a chynnig cefnogaeth yn syth i’r rheiny a gafodd eu heffeithio.

“Bwriad yr adolygiad annibynnol yw dod o hyd i ragor o wybodaeth am gefndir yr aflonyddwch a dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol".

Yn ôl y cyngor, cafodd panel ieuenctid ei gynnal yn ddiweddar hefyd er mwyn i bobl ifanc yr ardal rannu eu meddyliau.

Dywedodd y cyngor bod yr adolygiad yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru.

Llun: Cyngor Sir Abertawe

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.