Llywodraeth y DU yn cynnal trafodaethau brys am yr argyfwng prisiau nwy
Mae Kwasi Kwarteng, Gweinidog Busnes Llywodraeth y DU, yn cynnal cynhadledd frys gyda phenaethiaid o’r diwydiant nwy ddydd Llun i geisio mynd i’r afael â’r argyfwng prisiau sy’n wynebu’r farchnad.
Cadarnhaodd y gweinidog ddydd Sul y bydd cyflenwyr ‘lefel ganol’ yn cael eu rhoi mewn gweinyddiaeth os ydyn nhw'n mynd i drafferthion y gaeaf hwn mewn ymgais i amddiffyn cwsmeriaid rhag biliau mwy costus.
Mae prisiau nwy cyfanwerthol wedi codi i'r lefelau uchaf erioed yn ystod yr wythnosau diwethaf yn sgil cyfuniad o ffactorau.
Mae'r rhain yn cynnwys adferiad byd-eang cyflymach na'r disgwyl wedi’r pandemig, llai o stoc wedi gaeaf oer a gostyngiad mewn pŵer gwynt yn dilyn yr haf ‘lleiaf gwyntog’ i’r DU weld ers 1961.
Mae cadeirydd Cydffederasiwn y GIG wedi rhybuddio y gallai’r diffyg carbon deuocsid (CO2) yn sgil yr argyfwng arwain at ganslo llawdriniaethau.
Gall prinder CO2 hefyd gael effaith ar y diwydiant bwyd a diod, gyda chigoedd, cwrw a diodydd pefriog oll angen y nwy ar gyfer y broses gynhyrchu.
Mae pum cwmni nwy bychan wedi mynd i’r wal yn y pum mis diwethaf, gan adael hanner miliwn o gwsmeriaid angen darparwyr newydd.
Mae pryderon y gallai pedwar cwmni arall fynd i’r wal cyn diwedd y mis, gan adael 1m arall o gwsmeriaid heb ddarparwyr nwy, yn ôl The Guardian.
Darllenwch y stori’n llawn yma.