Teyrnged teulu i ferch 'gariadus' o Gymru fu farw mewn gwrthdrawiad yn Lerpwl
Mae teulu menyw o Sir Benfro a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Lerpwl wedi rhoi teyrnged iddi.
Bu farw Isobel Reyland, a oedd yn 26 oed, yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yn ardal Aigburth o'r ddinas yn ngogledd-orllewin Lloegr ddydd Mercher.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ffordd Aigburth ychydig cyn 17.40 yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tacsi Toyota Voxy gwyn a cherddwraig.
Fe gafodd Ms Reyland ei chludo i'r ysbyty i gael triniaeth, ond bu farw o ganlyniad i'w hanafiadau yn fuan wedyn.
Cafodd dyn 41 oed a oedd yn gyrru'r tacsi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal neu'n ddifeddwl dan ddylanwad cyffuriau.
Mae wedi cael ei ryddhau tra bo'r ymchwiliad yn parhau.
'Ei cholli am byth'
Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd teulu Ms Reyland fod eu "calonnau wedi torri'n deilchion".
"Roedd Izzy yn ferch, chwaer, modryb, wyres, nith, cyfnither a chwaer yng-nghyfraith gariadus a oedd yn cael ei charu'n fawr," meddai ei theulu.
"Cafodd ei chymryd oddi wrthym ni'n llawer yn rhy fuan a does dim geiriau i ddisgrifio faint y byddwn yn ei cholli am byth.
"Roedd hi'n fenyw ifanc hardd, gofalgar, doniol a chariadus a oedd yn dilyn ei breuddwydion mewn dinas yr oedd hi'n ei charu, gan fyw ei bywyd i'r eithaf.
"Fel teulu rydym wedi ein llethu, ac mae ein calonnau wedi torri'n deilchion ar ôl colli ein hannwyl Izzy.
"Izzy - byddi di gyda ni bob amser, ac mae ein cariad tuag atat ti'n para am byth."
Mae Heddlu Glannau Mersi yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu ag Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol y llu ar 0151 777 5747, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 26000720150.