CPD Abertawe: Ymchwilio i honiadau o gam-drin hiliol yn erbyn chwaraewr
Mae Heddlu Swydd Bedford wedi dechrau ymchwiliad i honiadau o gamdriniaeth hiliol yn erbyn un o chwaraewyr Clwb Pêl-droed Abertawe yn ystod gêm ddydd Sadwrn.
Yn agos at ddiwedd y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Luton Town yn Kenilworth Road, cafodd honiad o gamdriniaeth hiliol ei nodi yn erbyn y chwaraewr Rhys Williams gan un o gefnogwyr y tîm cartref.
Llwyddodd CPD Abertawe i gael canlyniad cyfartal ddydd Sadwrn o 3-3, wedi iddyn nhw fod ar ei hôl hi am y rhan fwyaf o'r gêm.
Mae'r clwb wedi dweud fod adroddiad swyddogol wedi ei wneud i swyddog y gêm ac i Heddlu Swydd Bedford.
Mae swyddogion y llu wedi bod yn bresennol yn cynnal ymholiadau ac yn gweithio gyda Luton Town i adnabod y sawl oedd ynghlwm â'r digwyddiad honedig.
Dywed CPD Abertawe ei fod yn condemnio pob math o hiliaeth a chamdriniaeth.
Yn ôl y clwb, mae Williams, sydd ar fenthyg o Lerpwl, yn derbyn eu cefnogaeth lawn ac maent mewn trafodaethau gyda Lerpwl er mwyn sicrhau fod ganddo'r holl gefnogaeth sydd arno angen.
Mae CPD Abertawe yn parhau i weithio gyda'r awdurdodau perthnasol ar y mater.
Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans