Cwtogi ar y nifer o benodau Pobol y Cwm bob wythnos
Fe fydd nifer y penodau o opera sebon Pobol y Cwm yn cael eu cwtogi o bedair i dair yr wythnos o fis Tachwedd ymlaen.
Mae Newyddion S4C ar ddeall mai costau ychwanegol yn sgil Covid-19 dros y flwyddyn ariannol bresennol yw’r prif reswm dros y newid.
Mewn datganiad, dywedodd S4C eu bod dal mewn trafodaethau am y gyfres nesaf o Pobol y Cwm, sy’n cael ei chynhyrchu gan BBC Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran S4C: “Mae’r drafodaeth am cyfres 49 o Pobol y Cwm – o Ebrill 2022 ymlaen – yn parhau gyda’r BBC.
“Mae nifer o bethau i’w hystyried a’u cytuno: Beth yw effaith Covid ar y drefn cynhyrchu o Ionawr ymlaen, costau ychwanegol sy’n deillio o gynhyrchu dan drefniadau Covid, deisyfiad S4C i gael cynnwys digidol/ar-lein dan faner Pobol y Cwm.
“Hefyd mae angen ystyried sut mae costau diweddaru offer technegol i gyd yn bwydo mewn i’r broses.
“Gobaith S4C yw dod a’r trafodaethau i fwcl cyn gynted â phosib er mwyn i bawb gael eglurder ynghylch y dyfodol.”
Llun: Pobol y Cwm