Dolly Parton wedi marw yn 80 oed

DOLLY PARTON

Mae'r gantores canu gwlad Dolly Parton wedi marw yn 80 oed.  

Mae ei theulu wedi cyhoeddi hynny nos Fawrth. 

Yn gantores, actores, dramodydd ac awdur, bu farw'n dawel yn Nashville, Tennessee, yn ôl ei theulu.     

Ymhlith ei chaneuon enwocaf, roedd Jolene a 9 to 5.

Dywedodd ei nai, Brian Seaver wrth gyhoeddi'r newyddion drwy gyfrwng fideo: "Roedd Dolly yn byw yn y goleuni a mae hi bellach ym mreichiau Iesu Grist."

Wedi ei geni yn 1946, cafodd ei magu ar fferm, heb fawr o arian, gan fyw mewn caban un ystafell wely ar lan afon yn Tennessee.

Hi oedd y pedwerydd o blith 12 o blant. 

Roedd ei thad, Robert Lee Parton, yn ffermwr tobaco, ac yn ôl Dolly Parton, roedd ei mam Avie Lee yn arfer canu caneuon gwlad iddi o hyd. 

Roedd ei modryb yn ddylanwad arni hefyd a oedd yn chwarae'r gitâr ac yn cyfansoddi caneuon.  

Mewn rhaglen a gafodd ei darlledu ar BBC Radio Wales yn Rhagfyr 2025, bu Dolly Parton yn archwilio a oedd ganddi deulu yng Nghymru.

Ac roedd lle i gredu fod teulu ei mam, Avie Lee Owens yn hanu o Gonwy.  

Eiconig  

Yn ôl Terwyn Davies, cynhyrchydd ar raglenni Radio Cymru a sylfaenydd y grwp Curo'r Corona'n Canu Gwlad ar facebook, roedd Dolly Parton yn berson didwyll, ac roedd hynny i gyfri' am ei phoblogrwydd byd-eang. 

Dywedodd wrth Newyddion S4C: "O ran y rhestr o gantorion canu gwlad, bydden i'n dweud bod hi'n un o'r rhai sy' ar y brig. Pan ti'n meddwl am ganu gwlad, ma' Dolly Parton yn dod i'r meddwl yn syth, ma'i chaneuon hi'n eiconig a hefyd ma'r ddelwedd ohoni, odd' pawb yn ei adnabod hi. 

"O'dd rwbeth am bersonoliaeth Dolly Parton o'dd pobl yn hoff ohono, hyd yn oed os nad oeddech chi'n hoff iawn o'i chaneuon, o'dd clywed Dolly Parton yn siarad a'i straeon odd 'da hi, o'dd hi'n ddidwyll iawn, o'dd hwnna'n apelio at fwy o bobl.

"Un peth dyw pobl ddim yn ystyried falle yw mai Dolly Parton nath gyfansoddi y gân I Will Always Love You ddo'th yn enwog gan Whitney Houston ond fe sgwennodd Dolly Parton y gân yn wreiddiol a ro'dd rheolwr Elvis Presley ar y pryd isie i Elvis ganu honna ond na'th Dolly wrthod gadael i Elvis ganu hi.

"Na'th hi recordio fersiwn ei hunan a wedyn yn y 90au wrth gwrs na'th Whitney Houston recordio'r gân a ma' honno wedi dod yn un o'r caneuon enwocaf yn y byd i gyd erbyn nawr. 

Ychwanegodd Terwyn Davies y bydd Dolly Parton yn cael ei chofio am ei gwaith dyngarol hefyd: "Bydd Dolly yn cael ei chofio wrth gwrs nid yn unig am y canu a'r actio ond hefyd am yr holl arian ma' hi 'di roi i bobl llai ffodus na hi, o'dd y cynllun o'dd gyda hi Imagination Library yn rhoi llyfre i blant drwy gydol America," meddai. 

  

 


 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.