Cyn-gwnstabl gyda Heddlu'r De wedi'i gyhuddo o dreisio tra ar ddyletswydd

Gorsaf heddlu De Cymru Abertawe

Mae cyn-gwnstabl gyda Heddlu De Cymru wedi ei gyhuddo o dreisio tra ar ddyletswydd.

Mae Rikki Hall, 33 oed, wedi ei gyhuddo o ddau gyhuddiad o dreisio ac un cyhuddiad o dagu nad oedd yn angheuol ar ôl ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud â honiadau ei fod wedi treisio a thagu menyw yn Abertawe tra'r oedd ar ddyletswydd ym mis Chwefror 2024.

Mae'r cyn-gwnstabl hefyd wedi ei gyhuddo o fod â dryll yn ei feddiant a dau gyhuddiad o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Fe wnaeth Rikki Hall ymddiswyddo yn ystod yr ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.

Bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Bryste ar ddydd Mercher 27 Awst.

Dywedodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu fod yr ymchwiliad wedi cychwyn yn 2024 ar ôl i Heddlu De Cymru gyfeirio'r achos atynt.



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.