Wrecsam: Amgueddfa Bêl-droed Cymru i agor ym mis Medi

Amgueddfa Bel Droed Cymru

Mae Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam wedi cyhoeddi y bydd yn agor ei drysau ddydd Gwener y 25ain o Fedi 2026. 

Mi fydd yr hen amgueddfa yn Wrecsam yn cael ei hail-ddatblygu'n ddwy hanner - gyda'r nod o blethu straeon, treftadaeth a chymunedau'r ddinas yng Nghymru gyda hanes gyfoethog pêl-droed Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon Heledd Fychan ei fod yn "garreg filltir anhygoel" ac ei bod yn annog "i bawb o Wrecsam - a ledled Cymru - i ddod i brofi'r datblygiad newydd hwn".

Ychwanegodd arweinydd Cyngor Wrecsam y Cynghorydd Mark Pritchard: "Bu cryn dipyn o gystadleuaeth ar draws Cymru i ddod o hyd i'r cartref cywir ar gyfer yr Amgueddfa Bêl-droed. Rydym yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno mai Wrecsam yw'r lle mwyaf addas i ymwelwyr cenedlaethol a rhyngwladol ddathlu ei threftadaeth."

Eglurodd na fyddai wedi bod yn bosib oni bai am y cyllid a ddaeth gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, cymorth Trawsnewid Trefi y Llywodraeth, Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig, Sefydliad Wolfson, Cronfa 'Purchase Fund' V&A yn ogystal â chyllid gan Gyngor Wrecsam, sydd wedi cefnogi'r cynlluniau:

"Byddwn hefyd yn hoff o ddiolch i'r staff am weithio'n galed iawn - rwy'n edrych ymlaen at weld pawb yn gwneud y mwyaf o'r safle newydd hwn yng nghanol y ddinas" meddai.

Nod y cynllun i ail-ddatblygu'r hen amgueddfa yw i greu profiad amgueddfa gwbl newydd o fewn cyffiniau adeiladau'r sir, gan ddod â hanes Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam at ei gilydd mewn safle sy'n sylweddol fwy, a modern.

Mae'r safle newydd wedi cadw cymeriad a threftadaeth yr hen adeilad rhestredig Gradd II, gyda'r nod o greu profiad sy'n parhau i apelio at gymunedau lleol, ffans pêl-droed, ac ymwelwyr o du hwnt i Gymru.

Yn ôl Prif Weithredwr Cyngor Wrecsam Alwyn Jones, mi fydd "pawb sy'n cofio'r hen amgueddfa yn rhyfeddu wrth weld y gwaith ehangu sydd wedi bod ar yr hen adeilad, yn ogystal ag ar yr ansawdd".

"Rydym yn falch iawn o broffesiynoldeb, gwaith caled ac ymrwymiad ein tîm newydd yma sy'n parhau i dyfu," meddai.

Mae disgwyl i ddrysau'r amgueddfa agor yn swyddogol am 10:00 fore dydd Gwener y 25 Medi, ac fe fydd rhagor o wybodaeth yn sgil amseroedd agor a threfniadau archebu yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.