Newyddion S4C

Sut i gael gafael ar Bàs Covid-19 yng Nghymru?

17/09/2021
GIG

O fis nesaf ymlaen, bydd yn rhaid i bobl yng Nghymru gael Pàs Covid-19 i ddangos os ydynt wedi eu brechu neu wedi cael prawf negyddol er mwyn mynychu clybiau nos a digwyddiadau mawr.

Bydd y newid yn dod i rym o 11 Hydref.

Cafodd y penderfyniad ei gyhoeddi gan Mark Drakeford ddydd Gwener, yn ystod adolygiad tair wythnos y llywodraeth o gyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Mae’r system eisoes wedi cael ei ddefnyddio mewn digwyddiadau torfol, fel Gŵyl y Dyn Gwyrdd ym mis Awst.

Lle fydd angen Pàs Covid-19?

          Clybiau nos

•          Digwyddiadau dan do heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobl, fel cyngherddau neu gonfensiynau

•          Digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobl

•          Unrhyw leoliad neu ddigwyddiad sy’n cynnwys mwy na 10,000 o bobl

Mae modd i unrhyw un sydd wedi eu brechu yn llawn lawrlwytho’r Pàs a dangos tystiolaeth o’u statws brechu. Mae’r Pàs hefyd yn dangos os ydy person wedi cael prawf llif unffordd negyddol yn ystod y 48 awr ddiwethaf.

Ar hyn o bryd, dim ond pobl dros 18 oed fydd yn gorfod dangos y Pàs Covid-19 yng Nghymru, ond mae modd ichi ei lawrlwytho os ydych dros 16 oed.

Sut mae lawrlwytho’r Pàs?

Mae modd cael Pàs Covid-19 y GIG trwy wefan y GIG yma, sy’n addas ar gyfer ffônau clyfar neu gyfrifiaduron.

Nid yw ap y GIG ar gael yng Nghymru, felly trwy’r wefan yn unig y mae modd cynhyrchu’r Pàs.

Bydd yn rhaid cofrestru gyda’r wefan i ddechrau a chyflwyno llun pasbort neu drwydded yrru.

Er mwyn cofrestru â gwefan y GIG, bydd angen cyflwyno eich rhif GIG neu enw llawn, dyddiad geni, a chôd post.

Ar ôl gwneud hyn, fe allwch lawrlwytho’r Pàs ac fe fydd cod arno lle mae modd ei sganio.

Image
Pas Covid

Wrth ddilyn y camau yma, fe allai'r wefan yrru cod diogelwch i’ch rhif ffôn, felly fe fyddai’n well cyflawni’r broses yn rhywle lle mae signal da.

Mae’r Pàs fel arfer yn para 30 diwrnod, ac mae modd ei ddiweddaru trwy gofnodi fewn i’r wefan unwaith eto.

Beth os ydw i eisiau Pàs Covid-19 ar bapur?

Mae modd gwneud hyn, ond dim ond os ydych wedi eich brechu yn llawn yn erbyn Covid-19, yn 16 a throsodd, os nad oes gennych lun adnabod, neu os ydych yn dymuno cael copi dwyieithog o’r Pàs.

Ffoniwch  0300 303 5667 os ydych yn dymuno cael copi ar bapur.

Fe allai hi gymryd 10 diwrnod i’ch Pàs gyrraedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.