Bar Walkabout yng nghanol Caerdydd i gau ym mis Medi

Walkabout

Mae bar Walkabout yng nghanol Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd yn cau gan ddweud nad yw’n bosib parhau i’w gynnal fel busnes.

Bydd y bar ar Heol Eglwys Fair yn croesawu cwsmeriaid am y tro olaf ddydd Sadwrn, 5 Medi.

Dywedodd llefarydd ar ran Walkabout: “Mae’r sector lletygarwch yn parhau i wynebu heriau sylweddol.

“Ar ôl ystyried yn ofalus, ac er gwaethaf ein holl ymdrechion, nid oes modd parhau i gynnal y safle fel busnes ac rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i gau Walkabout Caerdydd.

“Hoffem ddiolch i’n tîm gweithgar am eu hymrwymiad a’u hymroddiad.

“Hoffem hefyd ddiolch i’n cwsmeriaid a’r gymuned leol am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd.”

Mae’r bar dwy lawr, sydd â thema Awstralaidd, yn adnabyddus fel lleoliad i wylio chwaraeon byw ac fel clwb nos.

Bu’n fan poblogaidd ar ddiwrnodau gemau rygbi’r Chwe Gwlad pan oedd Cymru’n chwarae yn Stadiwm Principality.

Stonegate Group sy’n berchen ar Walkabout, yn ogystal â chadwyni fel Slug & Lettuce, Popworld a Be At One.

Yn ei ganlyniadau blynyddol diweddaraf, dywedodd Stonegate fod gwariant cwsmeriaid dan bwysau a bod costau cyflogau ac Yswiriant Gwladol wedi cynyddu.

Roedd gan y cwmni 4,259 o safleoedd ar ddiwedd mis Medi 2025, 111 yn llai na’r flwyddyn flaenorol.

Nid yw Stonegate wedi cadarnhau faint o swyddi fydd yn cael eu heffeithio, na beth fydd yn digwydd i’r safle ar ôl iddo gau.

Dywedodd llefarydd wrth Newyddion S4C fod y cwmni’n ceisio adleoli cymaint o weithwyr â phosib.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.