Cyhoeddi'r pecynnau cymorth cenedlaethol cyntaf i bobl sydd newydd gael diagnosis Diabetes Math 2
Mae'r pecynnau cymorth cenedlaethol cyntaf wedi cael eu cyhoeddi yng Nghymru i bobl sydd newydd gael diagnosis o Ddiabetes Math 2.
Mae'r bartneriaeth rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a Diabetes UK Cymru yn rhoi'r wybodaeth i bobl fedru byw yn dda o'r diwrnod cyntaf a helpu i atal cymhlethdodau difrifol.
Y pecynnau Adeg Diagnosis (POD), un ar gyfer cleifion ac un ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, yw'r adnoddau cyntaf sy’n gyson ledled Cymru.
Maent wedi cael eu cynllunio yn arbennig i gefnogi pobl ar adeg y diagnosis yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Daw'r pecynnau cenedlaethol wedi'r ystadegau yn gynharach eleni fod argyfwng diabetes Cymru yn tyfu'n gyflymach nag a gafodd ei ragweld.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 230,371 o bobl yng Nghymru bellach yn byw gyda diabetes, sef cynnydd o 7,685 o fewn blwyddyn.
Yn ôl yr amcangyfrif, mae 328,000 o bobl eraill yn byw gyda chyn-ddiabetes neu Ddiabetes Math 2 sydd heb ei ddiagnosio.
Mae'r cyflwr yn un gydol oes, ac os yw'n cael ei reoli'n wael, fe allai arwain at golli golwg, clefyd yr arennau a niwed i'r nerfau.
Mae ymchwil yn dangos fod adeg y diagnosis yn hollbwysig o ran cynllunio sut mae pobl yn cael mynediad at gymorth ac yn rheoli eu cyflwr dros amser.
Yn rhan o'r ymchwil, fe wnaeth nifer o bobl nodi eu bod yn teimlo'n ansicr neu â chywilydd neu euogrwydd ar ôl cael y diagnosis.
Mae'r pecynnau wedi'u cynllunio ar y cyd â dros 80 o bobl sy'n byw gyda Diabetes Math 2 a 32 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod wedi'u creu i fynd i'r afael â'r hyn y dywedodd pobl eu bod ei angen fwyaf.
Mae hyn yn cynnwys canllawiau clir ac ymarferol ar fwydydd a ffordd o fyw a gwell ymwybyddiaeth o sut y gall rheoli eu cyflwr yn dda wella eu hiechyd yn y dyfodol.
'Cyfle i'w cefnogi'
Dywedodd David Taylor, Cyfarwyddwr Trawsnewid yn Rhaglen Mynd i’r Afael â Diabetes Gyda’n Gilydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Hyd yn hyn, roedd y gefnogaeth a roddwyd i bobl ar ôl iddynt gael diagnosis o ddiabetes Math 2 yn rhy ddibynnol ar ble roedden nhw'n byw a phwy roedden nhw'n ei weld.
"Nid oedd yr amrywiad hwnnw'n deg, ac roedd yn cael effeithiau gwirioneddol ar iechyd pobl. Mae'r pecynnau hyn yn newid hynny."
Ychwanegodd Rachel Burr, Cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru: "Mae'n hollbwysig defnyddio’r adeg y mae rhywun yn cael diagnosis o ddiabetes Math 2 fel cyfle i'w gefnogi. Yn rhy aml, gall pobl deimlo'n bryderus, yn ynysig neu'n ansicr o ran ble i droi, yn enwedig yn ystod y cyfnod rhwng eu hapwyntiadau gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol."
