Ble mae tai yn cael eu gwerthu gyflymaf yng Nghymru?

tai

Mae gwefan eiddo wedi cyhoeddi ffigyrau newydd sy'n amlinellu lle mae'r llefydd cyflymaf i werthu tŷ yng Nghymru a'r DU.

Mae gwefan Zoopla yn datgan fod yr amser cyfartalog i werthu tŷ bron i saith gwaith yn gyflymach mewn rhai mannau o'r DU nag eraill, gyda thua hanner o ardaloedd awdurdodau lleol yn cofnodi amseroedd hirach i werthu o'i gymharu â llynedd. 

Yn ôl Zoopla, Sir Benfro sydd â'r nifer uchaf o ddyddiau i werthu tŷ yng Nghymru, gyda chyfartaledd o 50 diwrnod. 

Roedd hyn yn gynnydd o ddau ddiwrnod o'i gymharu â nifer y dyddiau yn y sir y llynedd (48). 

Castell-nedd Port Talbot yw'r sir â'r gyfradd gyflymaf i werthu tŷ yng Nghymru ar gyfartaledd, sef 29 diwrnod. 

Roedd hyn yn ostyngiad o bum niwrnod o'i gymharu â nifer y dyddiau yn y sir y llynedd (34). 

Dywedodd Richard Donnell, cyfarwyddwr gweithredol Zoopla: “Er bod yr amser cenedlaethol i werthu prin wedi symud, mae’r sefydlogrwydd hwnnw’n cuddio rhaniad go iawn sy’n agor rhwng marchnadoedd lleol.

"Os ydych chi'n gwerthu mewn marchnad arafach, peidiwch â mabwysiadu agwedd 'aros a gweld' - siaradwch ag asiant lleol sy'n gwybod am yr hyn sy'n digwydd o stryd i stryd, a gwnewch yn siŵr fod eich tŷ wedi ei brisio'n iawn o'r diwrnod cyntaf."

Fe wnaeth ymchwil Zoopla ddilyn y cyfnod o'r cartrefi yn cael eu rhoi ar y farchnad am y tro cyntaf i asiant tai yn adrodd bod gwerthiannau wedi’u cytuno. 

Dyma'r rhestr yng Nghymru: 

  1. Castell-nedd Port Talbot - 29 diwrnod 
  2. Rhondda Cynon Taf - 31 diwrnod
  3. Caerdydd - 32 diwrnod
  4. Pen-y-bont ar Ogwr - 33 diwrnod
  5. Sir y Fflint - 33 diwrnod 
  6. Casnewydd - 38 diwrnod
  7. Torfaen - 38 diwrnod
  8. Abertawe - 40 diwrnod
  9. Blaenau Gwent - 40 diwrnod 
  10. Wrecsam - 40 diwrnod
  11. Conwy - 41 diwrnod
  12. Ynys Môn - 41 diwrnod
  13. Ceredigion - 42 diwrnod
  14. Gwynedd - 43 diwrnod
  15. Caerffili - 43 diwrnod
  16. Bro Morgannwg - 44 diwrnod
  17. Sir Gâr - 44 diwrnod
  18. Sir Fynwy - 45 diwrnod
  19. Sir Ddinbych - 47 diwrnod
  20. Powys - 47 diwrnod
  21. Merthyr Tudful - 49 diwrnod
  22. Sir Benfro - 50 diwrnod



 



 



 



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.