Miloedd yn ymgynnull ar gyfer angladd Bonnie Tyler yn Abertawe

Miloedd yn ymgynnull ar gyfer angladd Bonnie Tyler yn Abertawe

Mae miloedd o bobl wedi ymgynnull yn Abertawe ar gyfer angladd y gantores Bonnie Tyler ddydd Llun.

Dechreuodd dathliad o fywyd y gantores fyd enwog yn Eglwys y Santes Fair yn y ddinas am 12.00.

Dim ond teulu, ffrindiau a gwahoddedigion oedd yn cael mynediad i’r eglwys, ond roedd aelodau’r cyhoedd yn gallu gwylio’r gwasanaeth ar sgrin fawr yn Sgwâr Dewi Sant gerllaw. Roedd modd i gefnogwyr ledled y byd hefyd wylio’r gwasanaeth ar-lein.

Cafodd arch wen Tyler, wedi’i haddurno â blodau gwyn, ei chario i mewn i’r eglwys i gyfeiliant If I Sing You a Love Song.

Roedd cleff trebl, meicroffon a chroes wedi’u cerfio ar yr arch.

Ar ôl gosod yr arch yng nghanol yr eglwys, cafodd It’s a Heartache ei chwarae.

Y Parchedig Ganon Justin Davies oedd yn arwain y gwasanaeth.

Yn dilyn y gwasanaeth yn yr eglwys, bydd Tyler yn dychwelyd i'w thref enedigol, Sgiwen, ger Castell-nedd Port Talbot, ar gyfer gwasanaeth preifat i'w theulu.

Image
Angladd Bonnie Tyler
Arch Bonnie Tyler yn cael ei chario i mewn i'r eglwys 

Bu farw’r gantores fyd enwog, a gafodd ei geni o dan yr enw Gaynor Hopkins, ddechrau mis Gorffennaf yn 75 oed.

Un o’r rhai cyntaf i gyrraedd y tu allan i’r eglwys ar gyfer yr angladd fore Llun oedd Leigh Alexandra, 42 oed, o ardal Abertawe.

"Dw i wedi tyfu i fyny wedi fy ysbrydoli gan Gaynor a’i cherddoriaeth ar hyd fy oes, ac rydyn ni’n ddigon ffodus i adnabod rhai o’i theulu," meddai.

"Rydyn ni’n gwybod o ddifrif ei bod hi’n dod o deulu sy’n llawn cariad, a’r peth gwych yw nad yw hi erioed wedi anghofio o ble mae hi’n dod.

"Roedd hi’n berson mor hyfryd. Roeddwn i eisiau i’w theulu wybod, er nad ydyn ni y tu mewn, ein bod ni yma a bod hynny’n golygu llawer i ni.

"Rydyn ni eisiau dangos ein cariad tuag atyn nhw, oherwydd ar ddiwrnod fel hwn mae’n gallu bod yn llethol iddyn nhw."

Daw’r angladd ar ôl i filoedd o bobl ymgynnull ddydd Sadwrn i ffarwelio â’r gantores am y tro olaf, wrth i’w harch gael ei chludo adref mewn hers i’w hen gartref yn y Mwmbwls, ger Abertawe.

Roedd y cyhoedd wedi cael eu gwahodd i "roi eu teyrngedau" drwy sefyll ar hyd Heol Newton yn y pentref wrth i'r arch fynd heibio.

Dechreuodd y dorf guro dwylo a chanu Total Eclipse Of The Heart wrth i arch Bonnie Tyler fynd heibio.

Roedd yr arch wedi'i gorchuddio â baner Cymru gyda llun o'r gantores mewn ffrâm gerllaw.

Taflodd rhai o'r dorf flodau ar yr hers wrth iddi fynd heibio. 

Roedd Tyler yn un o leisiau mwyaf adnabyddus cerddoriaeth bop Prydain.

Daeth yn enwog ledled y byd gyda chaneuon fel Total Eclipse of the Heart, It’s A Heartache a Holding Out For A Hero.

Roedd rhai wedi teithio mor bell â’r Unol Daleithiau i wylio’r orymdaith yn mynd drwy’r Mwmbwls

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.