Hanner y busnesau fferm mewn archwiliad llygredd heb gydymffurfio’n llawn â rheolau
Roedd bron i hanner y busnesau fferm a gafodd eu harchwilio gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod 2025 heb gydymffurfio’n llawn â rheolau atal llygredd amaethyddol yn eu harchwiliad cyntaf.
O’r 521 busnes a arolygwyd rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr, roedd 254, neu 49%, heb gydymffurfio’n llawn.
Rhwng 1 Ionawr a 31 Mai 2026, roedd 86 o’r 185 busnes a arolygwyd, neu 46%, heb gydymffurfio’n llawn.
Dechreuodd CNC raglen ym mis Ionawr 2024 i arolygu gweithgareddau amaethyddol oedd yn peri risg uwch o lygredd.
Gan fod yr archwiliadau’n cael eu targedu, nid yw’r canlyniadau’n cynrychioli pob fferm yng Nghymru.
Mae’r rheolau’n ceisio atal slyri, tail, hylif silwair a gwrtaith rhag llygru afonydd, nentydd a dŵr daear.
Mae CNC yn gwirio bod storfeydd yn ddigon mawr ac nad ydynt yn gollwng, bod tail a gwrtaith yn cael eu taenu mewn mannau ac ar adegau addas, a bod y cynlluniau, mapiau risg a chofnodion angenrheidiol yn eu lle.
Gall diffyg cydymffurfiaeth olygu problem gyda storfa neu’r ffordd mae tail neu wrtaith yn cael ei daenu. Ond gall hefyd olygu bod cynllun, map neu gofnod ar goll neu’n anghyflawn.
Nid yw diffyg cydymffurfiaeth o reidrwydd yn golygu bod busnes wedi achosi digwyddiad llygredd.
Dywedodd CNC ei bod yn “galonogol” fod cyfran y busnesau nad oedd yn cydymffurfio’n llawn wedi gostwng o flwyddyn i flwyddyn, gan alw hynny’n “gam positif”.
Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru fod data’r archwiliadau’n awgrymu bod nifer sylweddol o’r diffygion yn rhai gweinyddol neu’n ymwneud â chadw cofnodion, yn hytrach na digwyddiadau llygredd gwirioneddol.
Ond dywedodd Afonydd Cymru na fyddai lefel o’r fath “yn cael ei goddef mewn unrhyw sector rheoledig arall”.
Tua 550 o achosion ar agor
Ers dechrau’r rhaglen, roedd CNC wedi nodi diffyg cydymffurfiaeth mewn 679 o fusnesau fferm yn eu harchwiliad cyntaf.
Erbyn 31 Mawrth 2026, roedd 151 ohonynt wedi cwblhau’r gwaith angenrheidiol i gydymffurfio.
Dywedodd CNC fod llawer o’r 528 busnes arall yn dal i wneud gwaith o fewn amserlenni a gytunwyd. Roedd eraill wedi rhoi mesurau dros dro ar waith i reoli’r risg i’r amgylchedd tra oedd gwaith tymor hir yn cael ei gwblhau.
Roedd tua 550 o achosion CoAPR ar agor, meddai CNC, ond pwysleisiodd nad yw hynny o reidrwydd yn golygu 550 o ffermydd gwahanol.
Fel arfer, mae un achos yn ymwneud ag un busnes ffermio. Ond gall busnes redeg mwy nag un daliad a gall mwy nag un achos fod yn gysylltiedig â’r un busnes.
Felly, nid yw’r 528 o fusnesau a’r tua 550 o achosion yn mesur yr un peth.
Doedd CNC ddim yn darparu ffigurau yn dangos ers faint roedd yr achosion wedi bod ar agor, na faint ohonynt oedd yn ymwneud â risg uniongyrchol neu sylweddol o lygredd.
Dywedodd y byddai angen mynd drwy gofnodion unigol er mwyn llunio’r ffigurau hynny.
Yn ôl CNC, pan fydd arolygiad yn nodi risg uniongyrchol neu sylweddol o lygredd, mae’n gofyn am fesurau lliniaru ar unwaith. Mae difrifoldeb y diffyg hefyd yn cael ei adlewyrchu yn lefel y camau gorfodi.
‘Rhaid cael rhywbeth sy’n atal pobl’
Ni chafodd unrhyw erlyniad ei gwblhau o ganlyniad uniongyrchol i raglen arolygu CoAPR yn ystod y cyfnodau yr oedd ymateb CNC yn eu cwmpasu.
Dywedodd llefarydd ar ran Afonydd Cymru fod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud, gan gynnwys sefydlu rhaglen ffurfiol o archwiliadau fferm.
Ond ychwanegodd: “Er mwyn i orfodaeth fod yn effeithiol, rhaid cael rhywbeth sy’n atal pobl rhag peidio â chydymffurfio.
“Yn achos y lleiafrif bach o ffermwyr sy’n perfformio’n wael, byddem yn cwestiynu a yw cyngor a hysbysiadau’n ddigon i’w hatal, ac a fydd y polisi hwn yn gwella cydymffurfiaeth i’r lefel sydd ei hangen ac o fewn yr amser angenrheidiol.”
Galwodd Afonydd Cymru am newid yn “niwylliant gorfodi” CNC ac am i Lywodraeth Cymru osod amserlen i bob fferm gydymffurfio.
Dywedodd hefyd y dylai Llywodraeth Cymru ddwyn CNC i gyfrif am gyrraedd y nod hwnnw.
‘Baich biwrocrataidd’
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Amaethwyr Cymru: “Mae data arolygiadau yn awgrymu bod nifer sylweddol o’r achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth a gofnodir yn deillio o ddiffygion gweinyddol neu gadw cofnodion, yn hytrach nag o ddigwyddiadau llygredd gwirioneddol.
“Mae hyn yn tanlinellu’r angen am ddull gorfodi mwy seiliedig ar risg, sy’n rhoi mwy o bwyslais ar risg amgylcheddol wirioneddol ac effaith unrhyw achos o ddiffyg cydymffurfiaeth.”
Yn ôl yr undeb, byddai hynny’n caniatáu i adnoddau gael eu targedu at achosion o lygredd gwirioneddol a’r risgiau mwyaf sylweddol.
Ychwanegodd: “Mawr obeithiwn y bydd adolygiad annibynnol Llywodraeth Cymru o’r baich biwrocrataidd sy’n wynebu ein ffermwyr yn mynd i’r afael â nifer o’r pryderon hyn, gan arwain at fframwaith rheoleiddio symlach, mwy ymarferol a chymesur.”
Ymateb CNC
Mae adroddiad cyflawni CoAPR 2025/26 CNC yn dangos bod cyfran y busnesau fferm a oedd yn cydymffurfio’n llawn yn eu harchwiliad cyntaf wedi codi o 41% yn 2023/24 i 48% yn 2024/25 a 51% yn 2025/26.
Mae’r ffigurau hyn yn ymwneud â blynyddoedd ariannol, yn wahanol i ffigurau’r flwyddyn galendr ar ddechrau’r erthygl.
Dechreuodd y rhaglen ym mis Ionawr 2024, felly dim ond tri mis oedd yn rhan o ffigur 2023/24.
Roedd ffigur 2025/26 yn seiliedig ar 488 o fusnesau fferm a arolygwyd rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026.
Dywedodd CNC fod achosion yn cael eu blaenoriaethu ar sail eu heffaith bosibl ar yr amgylchedd. Mae achosion risg uwch yn cael sylw yn gyntaf, tra gall achosion risg is gael eu trin drwy gyngor, gwaith gwella y cytunwyd arno neu gamau gorfodi eraill.
Dywedodd y corff nad yw’r ffaith bod achos ar agor yn golygu nad yw’r risg i’r amgylchedd yn cael ei rheoli.
Mewn llawer o achosion, meddai CNC, mae mesurau dros dro wedi’u rhoi ar waith, mae gwaith gwella’n cael ei wneud neu mae camau gorfodi yn mynd drwy’r broses.
Dywedodd CNC fod un swydd wag ar draws y timau perthnasol ar hyn o bryd. Ond ychwanegodd nad yw hynny’n dangos effaith gronnol staff yn symud swyddi, swyddi gwag a gwaith recriwtio ers dechrau’r rhaglen.
“Mae ein ffocws yn parhau i fod ar gyflawni cydymffurfiaeth a sicrhau canlyniadau amgylcheddol mewn modd sy’n effeithiol ac yn gymesur â’r risgiau,” meddai CNC.