Andy Burnham yn pwyso a mesur caniatáu datblygu maes olew mwyaf gwledydd Prydain
Bydd angen i Andy Burnham benderfynu a fydd yn caniatáu datblygu y maes olew mwyaf sy’n weddill oddi ar arfordir ynysoedd Prydain wedi i ymgynghoriad ddod i ben.
Rosebank, sydd tua 80 milltir i'r gorllewin o Shetland, yw maes olew mwyaf y DU sydd heb ei ddefnyddio.
Bydd y penderfyniad ynghylch a all fynd yn ei flaen yn un amgylcheddol allweddol i'r Prif Weinidog, wrth i ymgyrchwyr amgylcheddol bryderu am yr effaith y byddai caniatáu’r datblygiad yn ei gael ar newid hinsawdd.
Dywedodd Robert Palmer, dirprwy gyfarwyddwr Uplift, sy’n ymgyrchu dros newid oddi wrth danwyddau ffosil: “Wrth i’r diwydiant olew a nwy wneud popeth o fewn ei allu i wthio Burnham i gyfeiriad 'drill, baby, drill' Trump, mae Prif Weinidog newydd y wlad wedi gwylio’r DU ac Ewrop yn llosgi.
“Digon yw digon. Mae angen i Burnham edrych drwy’r ffenestr a chydnabod y bydd y prosiect hwn yn gwaethygu’r argyfwng hinsawdd ac na fydd yn gwneud dim i Brydain.
“Rhaid gwrthod Rosebank unwaith ac am byth.”
Daeth yr ymgynghoriad ar ddatblygiad arfaethedig arall ym Môr y Gogledd, sef maes nwy Jackdaw oddi ar arfordir Aberdeen, hefyd i ben wythnos yn ôl.
Dywedodd penaethiaid Adura, y cwmni sydd y tu ôl i’r ddau brosiect, y byddent yn arwain at fuddsoddiad o £10.8 biliwn, ac mae disgwyl i fwy na thri chwarter o’r arian hwn gael ei wario yn y DU.
Gyda’i gilydd, gallai Rosebank a Jackdaw gynnal 3,500 o swyddi yn ystod y gwaith adeiladu, a byddai 880 o bobl wedyn yn cael eu cyflogi drwy gydol oes y gwaith cynhyrchu.
Roedd gwaith cynhyrchu yn Rosebank a Jackdaw wedi cael ei gymeradwyo gan y llywodraeth Geidwadol flaenorol, ond cafodd y penderfyniadau hynny eu diddymu ar ôl her gyfreithiol gan Greenpeace, gan adael i weinidogion Llafur benderfynu a ddylai’r gwaith drilio fynd yn ei flaen.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Diogelwch Ynni a Sero Net y DU: “Mae Môr y Gogledd yn parhau i fod yn ased cenedlaethol hanfodol, gan gefnogi swyddi, twf a diogelwch ynni’r DU.
“Rydym yn glir y bydd olew a nwy yn parhau i chwarae rhan bwysig yn ein system ynni am ddegawdau i ddod, ochr yn ochr â’r newid i ynni glân er mwyn diogelu swyddi a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.”