Pum dyn ifanc wedi marw mewn gwrthdrawiad ar draffordd yn Iwerddon
Mae pum dyn ifanc wedi marw ac mae pedwar person arall wedi’u hanafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad yn ymwneud â char oedd yn teithio i’r cyfeiriad anghywir ar draffordd yn Sir Kildare, Iwerddon.
Mae Comisiynydd heddlu Iwerddon, y Gardaí, Justin Kelly, wedi disgrifio’r gwrthdrawiad rhwng dau gar ar yr M9 fel un “erchyll”, gan rybuddio bod cerbydau “mewn rhai achosion” yn cael eu gyrru ar ochr anghywir traffyrdd er mwyn cael ymateb ar gyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd y Gardaí eu bod yn ymchwilio i amgylchiadau’r ddamwain ger cyffordd 3 tua 03:00 fore dydd Sul.
Mae un o’r rhai sydd wedi ei anafu'n ddifrifol yn y ddamwain yn blentyn.
Dau gerbyd
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod dau gerbyd wedi gwrthdaro wyneb yn wyneb ar ffordd yr M9 i gyfeiriad y gogledd.
Dywedodd y Gardaí eu bod yn ymchwilio i amgylchiadau'r gwrthdrawiad am tua 03:00 ddydd Sul.
Cafodd y gwasanaethau brys wybod am gerbyd oedd yn teithio tua'r de ar y ffordd i gyfeiriad y gogledd ar yr M9.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gardaí fod cyrff pump o fechgyn yn eu harddegau - pob un ohonynt yn teithio yn yr un cerbyd - wedi’u cludo o’r safle.
Mae eu cyrff wedi’u cludo i Ysbyty Cyffredinol Naas, lle bydd archwiliadau post mortem y cael eu cynnal.
Ychwanegodd y llefarydd: “Mae’r rhai oedd yn teithio yn yr ail gerbyd - tair menyw a bachgen - yn parhau yn yr ysbyty ac yn cael triniaeth am anafiadau difrifol.
“Mae ymchwilwyr fforensig wedi cwblhau eu harchwiliad o’r safle.”
Y gred yw bod dwy fenyw yn eu 30au ac un yn ei 20au yn yr ail gerbyd.
Mae'r M9 rhwng cyffordd 3 a chyffordd 4, i'r gogledd ac i'r de, yn parhau ar gau.
Archwiliad
Bydd archwiliad fforensig o'r gwrthdrawiad gan y Gardaí yn cael ei gynnal.
Mae'r Gardaí yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad i gysylltu.
Mae Fiosrú, Swyddfa Ombwdsmon yr Heddlu, wedi cael gwybod am y digwyddiad.
Dywedodd datganiad gan Fiosrú: “Yn unol â’i gylch gwaith statudol, mae ymchwiliad Fiosrú yn ymwneud â digwyddiadau sy’n cynnwys cyswllt â’r Gardaí lle mae aelod o’r cyhoedd wedi marw neu wedi’i anafu’n ddifrifol.
“Nid yw atgyfeiriad o reidrwydd yn golygu bod swyddog neu swyddogion Garda wedi cael eu cyhuddo o gamymddygiad.
“Yn hytrach, mae’n golygu y dylai Fiosrú ymchwilio i’r digwyddiad yn annibynnol i ganfod a allai gweithred neu fethiant i weithredu gan swyddog neu swyddogion Garda fod wedi arwain at farwolaeth person neu niwed difrifol iddo.
“Gan fod y mater yn cael ei ymchwilio ar hyn o bryd, ni all Fiosrú wneud unrhyw sylw pellach.”