'Dod ymlaen efo Kim Jong Un': Trump am leihau ymarferion milwrol ar y cyd â De Corea
Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi dweud y bydd yr Unol Daleithiau yn “lleihau’n sylweddol” ei hymarferion milwrol ar y cyd â De Corea.
Fe wnaeth gyhoeddi hynny gan gyfeirio at ei “berthynas dda iawn” ag arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un.
Fe nododd hefyd ar gyfrwng Truth Social fod De Corea wedi gwrthod ymuno â’r Unol Daleithiau yn ddiweddar yn y gwaith o “ddadniwcleareiddio” Iran.
“Mae’r ymarferion hyn nid yn unig yn ddrud, gyda’r Unol Daleithiau’n talu am ran helaeth o’r costau hyn (fel arfer!), ond maent hefyd yn anfon neges sy’n gwbl amhriodol a gelyniaethus,” meddai Trump yn ei neges.
Dywedodd Seoul y byddai’r ymarferion gyda’r Unol Daleithiau’n mynd y eu blaenau “yn unol â’r amserlen”.
Dywedodd Trump yn ei neges ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sul ei bod yn “rhy hwyr i’w canslo”, gan fod yr Unol Daleithiau a De Corea i fod i ddechrau eu hymarferion milwrol blynyddol ddydd Llun.
Ychwanegodd: “Fe wnes i ofyn yn ddiweddar i Arlywydd De Corea a fydden nhw’n hoffi ymuno â ni yn y gwaith o Ddadniwcleareiddio Gweriniaeth Islamaidd Iran, ac fe ddywedon nhw, ‘Dim diolch!’”
Nid yw Pyongyang wedi cynnig sylw eto. Daw hyn ar ôl i Ogledd Corea gynnal profion taflegrau balistig y mis hwn sydd wedi’u gwahardd gan y Cenhedloedd Unedig.
Daeth cyhoeddiad Trump lai na 24 awr ar ôl iddo gyhoeddi hen lun ohono ef a Kim o 2019, gan ysgrifennu bod y ddau yn “dod ymlaen yn dda iawn” er bod “y ddau ohonom yn edrych yn anghyfeillgar yn y llun dan sylw”.
Llun: Donald Trump ar Truth Social.