Cyfraddau hunanladdiad 'yn uwch mewn ardaloedd glofaol'
Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn trafod hunanladdiad.
Mae astudiaeth newydd sy'n edrych ar hunanladdiad, a marwolaethau'n gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau, wedi darganfod bod cyfraddau llawer uwch mewn ardaloedd glofaol.
Mae effaith cau'r pyllau glo ddegawdau yn ôl yn dal i'w theimlo mewn llawer o gymunedau yng Nghymru, yn ôl ymchwil newydd sy'n edrych ar y cysylltiad rhwng treftadaeth ddiwydiannol a'r hyn sy'n cael ei alw'n "farwolaethau anobaith".
Mae'r astudiaeth, a gafodd ei chynnal gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor, yn awgrymu bod cyfraddau hunanladdiad, marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol, a marwolaethau oherwydd gwenwyn cyffuriau tua 53% yn uwch mewn ardaloedd sydd â hanes o fwyngloddio glo o gymharu ag ardaloedd heb yr un hanes.
Daw'r canfyddiadau wrth i sefydliadau a grwpiau cymunedol ledled Cymru barhau i geisio mynd i'r afael ag un o heriau mwyaf iechyd meddwl y wlad: atal hunanladdiad.
"Ma nifer yr hunanladdiadau yng Nghymru lot rhy uchel a ma' nhw'n cynyddu. Neges heddiw yw i estyn mewn, oherwydd pan ma' pobl yn stryglo, weithiau, ma' nhw methu estyn allan," meddai Prif Weithredwr Tackle Suicide, Paul Pook
Yn ôl ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol, cafodd 436 o farwolaethau drwy hunanladdiad eu cofrestru yng Nghymru yn 2024.
Roedd hynny'n gyfwerth â chyfradd o 15.7 o farwolaethau fesul 100,000 o'r boblogaeth, cynnydd o gymharu â 14.0 yn 2023. Mae'r gyfradd hefyd yn uwch na'r ystadegau yn Lloegr, lle'r oedd y ffigur cyfatebol yn 11.1 fesul 100,000.
Image
Dr Christopher Saville
Dywedodd cydawdur yr ymchwil, Dr Christopher Saville o Brifysgol Bangor, fod y canfyddiadau'n dangos sut y gall newidiadau economaidd mawr gael effaith hirdymor ar iechyd a llesiant cymunedau.
"Mae'n bwysig i dangos y cost o dad-ddiwydiannu, yn anffodus 'dan ni yn mynd i gael pethau fel hyn yn digwydd yn y dyfodol.
"Dwi'n poeni ychydig am AI, Mae 'na real potensial am sioc enfawr a 'dan ni gorfod 'neud yn siwr bod y Llywodraeth yn meddwl yn fanwl am hyn."
Mae'r ymchwilwyr yn dadlau bod angen dysgu gwersi o gyfnod y dad-ddiwydiannu yng Nghymru, gan awgrymu y dylai llunwyr polisi ystyried goblygiadau cymdeithasol ac iechyd meddwl unrhyw drawsnewidiadau economaidd yn y dyfodol. Mae'r pwnc yn cael ei drafod yn ehangach mewn digwyddiadau cymunedol ledled Cymru.
Mewn digwyddiad ym Mae Caswell, daeth elusennau, sefydliadau chwaraeon a mudiadau lleol ynghyd i drafod ffyrdd o gefnogi pobl a lleihau'r risg o hunanladdiad.
Mae grwpiau fel Sefydliad Jac Lewis yn pwysleisio pwysigrwydd creu mannau lle gall pobl siarad yn agored am eu hiechyd meddwl a derbyn cefnogaeth gan eu cymunedau.
Dywedodd y cadeirydd Anthony Rees: "Cafodd y sefydliad ei greu yn Rhydaman ond ni mo'yn helpu pobl mewn pob cymuned, yng Nghymru i gyd.
"Mae angen helpu pobl yn gynnar, gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gwybod lle mae'r cymorth. Does dim oedran i iechyd meddwl, a ma' pawb yn gallu cael eu effeithio."
Image
Cafodd digwyddiad ei gynnal ym Mae Caswell ddydd Sul.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni’n croesawu'r astudiaeth hon a'i chanfyddiadau pwysig. Mae colli rhywun i hunanladdiad neu gamddefnyddio sylweddau yn cael effaith ddofn a pharhaol ar deuluoedd, ffrindiau a chymunedau.
"Rydyn ni’n gweithio i atal y marwolaethau hyn ac i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, gan sicrhau fod y gwaith yn cael ei lywio gan dystiolaeth. Rydyn ni wedi buddsoddi yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio i helpu i gryfhau ein hymdrechion ledled Cymru.
"Mae ein menter Tegwch Iechyd Cymru hefyd yn rhannu gwersi o Leoliadau Marmot yng Nghymru, sy'n anelu at leihau gwahaniaethau iechyd annheg sy’n gysylltiedig â lle mae pobl yn byw. Mae hyn yn ein helpu i gefnogi cymunedau'n uniongyrchol a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ar lefel leol."
Yn ôl yr ymchwil, nid yw etifeddiaeth y diwydiant glo yn ymwneud â hanes economaidd yn unig. Mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod goblygiadau cymdeithasol ac iechyd yn parhau i effeithio ar gymunedau flynyddoedd lawer ar ôl i'r pyllau gau.
Wrth i Gymru geisio mynd i'r afael â lefelau uchel o hunanladdiad a gwella cymorth iechyd meddwl, mae'r ymchwil yn codi cwestiynau pwysig ynghylch sut y gellir sicrhau nad yw anghydraddoldebau'r gorffennol yn cael eu trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl neu â meddyliau am hunan-niweidio neu hunanladdiad, mae cymorth ar gael yma.