Gêm gyfartal rhwng Caerdydd â Wrecsam yn y Bencampwriaeth
Cafodd Caerdydd a Wrecsam gêm gyfartal yn y brifddinas nos Lun yn eu gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.
Fe sgoriodd Wrecsam yn gyntaf gyda gôl gynnar gan yr ymosodwr Kieffer Moore.
Fe sgoriodd Rubin Colwill gôl o gic rydd gyda chic ola’r gêm i unioni’r sgôr er mawr ryddhad i gefnogwyr y tîm cartref yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Dyma’r tro cyntaf I’r ddau glwb gyfarfod yn y gynghrair ers gêm yn y drydedd haen yn 2002.
Fe ddaeth Colwill ar i'r cae fel eilydd yn yr ail hanner.
Dywedodd rheolwr Caerdydd Brian Barry-Murphy: "Cafodd effaith fawr ar gêm fawr."
Dywedodd rheolwr Wrecsam Phil Parkinson: "Gallwch gael eich cosbi am ildio ciciau rhydd hawdd ar y lefel hon, a dyna a gostiodd i ni heno."
Llun: Asiantaeth Huw Evans
