Teyrnged teulu i'r actores Hayden Panettiere sydd wedi marw yn 36 oed
Mae’r actores Americanaidd Hayden Panettiere, sy’n fwyaf adnabyddus am ei rhannau yn Heroes a Nashville, wedi marw yn 36 oed.
Fe wnaeth cynrychiolydd yr actores gadarnhau ei marwolaeth i rwydwaith ABC News yn yr Unol Daleithiau ddydd Sul, gan ddweud y byddai ei theulu’n ei chofio fel “goleuni anhygoel” a ddaeth â “chariad a llawenydd anfesuradwy i bawb oedd yn ei hadnabod”.
Mewn datganiad dywedodd ei thad, Skip: “Gyda thristwch dwys rydym yn rhannu’r newyddion trasig bod ein hannwyl Hayden wedi marw.
“Roedd hi’n oleuni anhygoel ac yn rym natur a ddaeth â chariad a llawenydd anfesuradwy i bawb oedd yn ei hadnabod, ac i’r miliynau a oedd yn ei gwylio ar y sgrin.”
Fe wnaeth ei thad hefyd ofyn am breifatrwydd i’w theulu wrth iddyn nhw “gymryd amser i geisio amgyffred y golled annirnadwy hon”.
Nid oes achos marwolaeth wedi cael ei gyhoeddi.
Fe wnaeth y ddynes 36 oed ddechrau actio pan oedd hi’n blentyn, gan ymddangos mewn operâu sebon cyn dod yn fwy adnabyddus am ei rôl yn y ddrama chwaraeon Remember The Titans yn 2000, ochr yn ochr â Denzel Washington, ac am leisio Dot yn A Bug’s Life yn 1998.
Yn ddiweddarach, fe ddaeth Panettiere yn enwog am chwarae Claire Bennet yn y ddrama archarwyr Heroes, cyn mynd ymlaen i serennu fel y gantores canu gwlad Juliette Barnes am chwe thymor yn y gyfres deledu boblogaidd Nashville.
Mae ei ffilmiau’n cynnwys Bring It On: All Or Nothing yn 2006, y ffilm gomedi-ddrama Raising Helen, a Kirby Reed yn Scream 4 a Scream VI.
Roedd yr actores wedi datgelu’n flaenorol ei bod wedi cael trafferth gyda chyffuriau drwy gydol ei hugeiniau.
Mewn cyfrol hunangofiannol a gafodd ei chyhoeddi’n gynharach eleni, fe siaradodd Panettiere yn agored am ei phroblemau iechyd meddwl, marwolaeth ei brawd iau, Jansen, a’i phenderfyniad i roi gwarchodaeth lawn o’i merch i’w chyn-bartner, y bocsiwr o Wcráin Wladimir Klitschko.