Disgwyl i filoedd ymgynnull ar gyfer angladd Bonnie Tyler yn Abertawe
Fe fydd angladd y gantores Bonnie Tyler yn cael ei gynnal yn Abertawe ddydd Llun.
Bydd dathliad o fywyd y gantores fyd enwog yn cael ei gynnal yn Eglwys y Santes Fair yn y ddinas am 12.00.
Fe fydd mynediad i'r eglwys ar gyfer teulu, ffrindiau a gwahoddedigion yn unig ond gall aelodau'r cyhoedd sydd am fod yno wylio'r gwasanaeth ar sgrîn fawr yn Sgwâr Dewi Sant gerllaw.
Fe fydd modd i gefnogwyr led led y byd wylio ar-lein.
Bydd ffyrdd ar naill ochr yr eglwys yn Sgwâr y Santes Fair ar gau o 7.00 ddydd Llun, a dywedodd Cyngor Sir a Dinas Abertawe fe fydd mynediad lle bo hynny'n bosib.
Disgwylir i'r orymdaith angladdol adael am 13.00 a chyrraedd ei phentref enedigol, Sgiwen ger Castell-nedd, erbyn tua 13.20.
Yna fe fydd yr orymdaith yn symud ymlaen i wasanaeth preifat i’w theulu yn Eglwys y Santes Fair, Abertawe.
Bu farw’r gantores fyd enwog ddechrau mis Gorffennaf mewn ysbyty ym Mhortiwgal yn 75 oed.
Fe wnaeth miloedd o bobl ymgynnull ddydd Sadwrn i ffarwelio am y tro olaf gyda'r gantores wrth i'w harch gael ei chludo adref mewn hers i’w hen gartref yn y Mwmbwls ger Abertawe.
Roedd y cyhoedd wedi cael eu gwahodd i "dalu eu teyrngedau" drwy sefyll ar hyd Heol Newton yn y pentref wrth i'r arch fynd heibio.
Dechreuodd y dorf guro dwylo a chanu 'Total Eclipse Of The Heart' wrth i arch Bonnie Tyler fynd heibio.
Roedd yr arch wedi'i gorchuddio â baner Cymru gyda llun o'r gantores mewn ffrâm gerllaw.
Taflodd rhai o'r dorf flodau ar yr hers wrth iddi fynd heibio.
Roedd Bonnie Tyler yn un o leisiau mwyaf adnabyddus cerddoriaeth bop Prydain.
Gaynor Hopkins oedd ei henw'n wreiddiol.
Daeth yn enwog ledled y byd am ganeuon fel 'Total Eclipse of the Heart’, ‘It’s A Heartache’ a ‘Holding Out For A Hero’.
Roedd rhai wedi teithio mor bell â’r Unol Daleithiau i wylio’r orymdaith yn mynd drwy’r Mwmbwls