Aur i Azu ym Mhencampwriaethau Athletau Ewrop
Mae’r Cymro Jeremiah Azu wedi ennill medal aur fel rhan o dîm cyfnewid 4x100 dynion Prydain ym Mhencampwriaethau Athletau Ewrop yn Birmingham nos Sadwrn.
Mae Azu yn ychwanegu’r aur at y fedal arian enillodd yn y 100 medr unigol yn gynharach yn yr wythnos.
Roedd Azu wedi rhedeg cymal cychwynnol y ras gyfnewid mewn tîm oedd hefyd yn cynnwys Louie Hinchliffe, Zharnel Hughes a Romell Glave nos Sadwrn.
Roedd y pedwarawd ar y blaen am rhan fwya’r ras gan ennill mewn amser o 38.45 eiliad o flaen yr Almaen a Gwlad Belg.
Yn gynharach fe wnaeth tîm cyfnewid 4x100 merched Prydain ennill yr aur.
Roedd hyn yn golygu fod Amy Hunt wedi ennill ei thrydedd fedal aur yn ei hymgais i ennill pedair yn y pencampwriaethau.
Mae ymgais arall ganddi yn y ras gyfnewid 4x100 cymysg.
Gyda'r ddau lwyddiant yn y rasys cyfnewid, cododd cyfanswm medalau Prydain i 12 - gan gynnwys chwe medal aur.
Llun: British Athletics