Cofio gemau pêl-droed gorau Stadiwm Principality cyn y gêm fawr yno ddydd Sul

Steven Gerrard

Mae disgwyl i ddegau o filoedd heidio i Gaerdydd ar gyfer rownd derfynol y Community Shield rhwng Arsenal a Manchester City ddydd Sul.

Dyma fydd y tro cyntaf i rownd derfynol un o brif gystadlaethau Lloegr gael ei chwarae yng Nghymru ers bron i 20 mlynedd.

Rhwng 2001 a 2007 roedd rowndiau terfynol Cwpan yr FA, Cwpan Cynghrair Lloegr, y Community Shield, Tlws yr EFL a rowndiau terfynol gemau ail-gyfle'r Bencampwriaeth, Adran Un ac Adran Dau yn cael eu chwarae yn y brifddinas.

Wrth i gemau ddychwelyd i'r stadiwm am y tro cyntaf ers bron i 20 mlynedd, Newyddion S4C sy'n edrych ar rai o'r gemau mwyaf cofiadwy fu yno.

Cwpan yr FA 2006: Lerpwl 3-3 West Ham (Lerpwl yn ennill 3-1 ar giciau o'r smotyn)

Dyma oedd rownd derfynol olaf Cwpan yr FA i gael ei chynnal yng Nghaerdydd.

Ar ôl i West Ham fynd ar y blaen o 2-0, fe sgoriodd Djibril Cissé i Lerpwl i'w gwneud hi'n 2-1 erbyn hanner amser.

Sgoriodd Steven Gerrard i unioni'r sgôr ar ôl 54 munud, cyn i groesiad Paul Konchesky hedfan dros ben golwr Lerpwl, Pepe Reina, i roi West Ham yn ôl ar y blaen.

Mae hon yn cael ei hadnabod fel 'Rownd derfynol Gerrard', a hynny wedi iddo sgorio un o goliau gorau yn hanes y gystadleuaeth yn amser ychwanegol y 90 munud.

Taranodd foli o'r tu allan i'r cwrt 18 i gefn y rhwyd, gan olygu bod angen amser ychwanegol ac yna ciciau o'r smotyn i benderfynu'r enillydd.

Lerpwl oedd yn fuddugol, gan ddod â chyfnod o gemau Cwpan yr FA i ben yn y Stadiwm y Mileniwm.

Image
Steven Gerrard yn dathlu wedi iddo sgorio yn munud rhif 91. Llun: Reuters
Steven Gerrard yn dathlu wedi iddo sgorio yn munud rhif 91. Llun: Reuters

Cwpan yr FA 2005: Arsenal 0-0 Manchester United (Arsenal yn ennill 5-4 ar giciau o'r smotyn)

Manchester United wnaeth reoli rhan fwyaf o'r gêm hon, gan greu sawl cyfle.

Ond roedd Arsenal wedi amddiffyn yn gadarn trwy gydol y 90 munud, gan orfodi amser ychwanegol.

Roedd hynny er gwaethaf cerdyn coch i José Antonio Reyes yn hwyr mewn amser ychwanegol. Derbyniodd ail gerdyn melyn am dacl hwyr ar Mikaël Silvestre.

Aeth y gêm hon i giciau o'r smotyn, y tro cyntaf i rownd derfynol Cwpan yr FA gael ei phenderfynu fel hyn.

Patrick Vieira, capten Arsenal, sgoriodd y gic o'r smotyn fuddugol yn ei gêm olaf dros y clwb.

Image
Y ffarwel perffaith i Patrick Vieira. Llun: Reuters
Y ffarwel perffaith i Patrick Vieira. Llun: Reuters

Cwpan y Gynghrair 2005: Chelsea 3-2 Lerpwl

Dyma oedd y tlws cyntaf i José Mourinho ei ennill fel rheolwr Chelsea.

Dechreuodd y gêm yn y ffordd orau bosib i Lerpwl wrth i John Arne Riise sgorio ar ôl 43 eiliad yn unig, sef y gôl gyflymaf yn hanes rownd derfynol Cwpan y Gynghrair.

Ni sgoriodd unrhyw dîm arall tan y 79fed munud, pan rwydodd Steven Gerrard i'w rwyd ei hun gyda pheniad.

Yn ystod y dathliadau cafodd José Mourinho ei anfon o'r ystlys am ddathlu o flaen cefnogwyr Lerpwl.

Ond nid oedd y crysau gleision wedi cael eu heffeithio gan ddiffyg presenoldeb eu rheolwr.

Sgoriodd Didier Drogba a Mateja Kežman yn amser ychwanegol, ac er i Antonio Núñez sgorio i Lerpwl, Chelsea oedd yn fuddugol.

Image
Mourinho'n dathlu'r fuddugoliaeth. Llun: Reuters
Mourinho'n dathlu'r fuddugoliaeth. Llun: Reuters

Cwpan y Gynghrair 2007: Chelsea 2-1 Arsenal

Dyma oedd un o'r gemau mwyaf tanllyd a welwyd yng Nghaerdydd rhwng 2001 a 2007.

Cafodd tri chwaraewr gardiau coch yn amser ychwanegol ar ddiwedd y 90 munud.

Yn ystod y gêm fe sgoriodd Theo Walcott, oedd yn 17 oed, ei gôl gyntaf i Arsenal.

Fe wnaeth Didier Drogba rwydo wyth munud yn ddiweddarach i unioni'r sgôr.

Bu'n rhaid i'r gêm stopio am gyfnod ar ôl i chwaraewr canol cae Arsenal, Abou Diaby, gicio John Terry yn ei wyneb yn anfwriadol.

Cafodd Terry ei daro'n anymwybodol a'i gludo i'r ysbyty.

Ar ôl i'r gêm ailddechrau fe sgoriodd Drogba ei ail gôl ar ôl 84 munud, gan ennill y gêm i Chelsea.

Ond cyn i'r gêm ddod i ben fe gafodd John Obi Mikel, Kolo Touré ac Emmanuel Adebayor gardiau coch yn ystod ffrwgwd rhwng sawl chwaraewr.

Image
Emmanuel Adebayor yn derbyn carden coch. Llun: Reuters
Emmanuel Adebayor yn derbyn ccerdyn coch. Llun: Reuters

Tlws yr EFL 2005: Wrecsam 2-0 Southend United

Roedd hwn yn ddiwrnod i'w gofio i Wrecsam yn ystod cyfnod anodd iawn i'r clwb.

Ar ddechrau'r tymor roedd y clwb wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr ac yn ceisio osgoi disgyn o'r gynghrair.

Roedd Ben Foster yn chwarae yn y gêm hon wrth i Wrecsam gadw llechen lân.

Roedd hi'n 0-0 ar ôl 90 munud, ac roedd angen amser ychwanegol ar Wrecsam i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Juan Ugarte sgoriodd ar ôl 99 munud cyn i gapten y Dreigiau, Darren Ferguson, sgorio ar ôl 118 munud, gyda'i dad Syr Alex yn gwylio yn y dorf.

Image
Buddugoliaeth yn ystod cyfnod anodd i Wrecsam. Llun: CPD Wrecsam
Buddugoliaeth yn ystod cyfnod anodd i Wrecsam. Llun: CPD Wrecsam

Tlws yr EFL 2006: Abertawe 2-1 Carlisle United

Am yr ail flwyddyn yn olynol fe wnaeth clwb o Gymru ennill Tlws yr EFL.

Y tro hwn, tro Abertawe gipiodd y tlws yn y brifddinas.

Lee Trundle sgoriodd y gôl gyntaf gyda foli ar ôl rheoli'r bêl ar ei frest. Disgrifiodd Trundle hon fel y gôl orau iddo erioed ei sgorio yn ei yrfa.

Adam Murray wnaeth unioni'r sgôr bum munud cyn hanner amser, cyn i Adebayo Akinfenwa sgorio'r gól fuddugol ar ôl 81 munud.

Cafodd cysgod ei daflu dros y dathliadau ar ôl i Lee Trundle ac Alan Tate arddangos baner Cymru gyda neges sarhaus am Gaerdydd arni.

Roedd Trundle hefyd yn gwisgo crys oedd yn dangos llun anweddus yn bychanu cefnogwyr Caerdydd.

Roedd y ddau yn destun ymchwiliad gan yr heddlu ac fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru gymryd camau disgyblu.

Image
Lee Trundle a Adebayo Akinfenwa yn dathlu gyda'r diweddar Kenny Jackett. Llun: CPD Abertawe
Lee Trundle a Adebayo Akinfenwa yn dathlu gyda'r diweddar Kenny Jackett. Llun: CPD Abertawe

Rownd derfynol Gemau Ail-gyfle Adran Un 2003: Caerdydd 1-0 Queens Park Rangers

Ni fyddai'r rhestr hon yn gyflawn heb y clwb o'r brifddinas yn ennill yn y stadiwm eiconig.

Er i'r gêm ddwys orffen yn ddi-sgôr ar ôl 90 munud, cafodd dros 66,000 o gefnogwyr weld gôl gyda'r 120 munud bron ar ben.

Roedd rheolwr Caerdydd, Lennie Lawrence, wedi gwneud y penderfyniad i eilyddio Robert Earnshaw, a sgoriodd 35 o goliau y tymor hwnnw, yn hwyr yn y 90 munud, gan roi Andy Campbell ar y cae yn ei le.

Cafodd Lawrence ei wobrwyo am ei benderfyniad wrth i Campbell godi'r bêl dros golwr QPR, Chris Day, gyda chwe munud yn weddill i ennill y gêm.

Roedd y fuddugoliaeth yn sicrhau lle Caerdydd yn yr ail haen am y tro cyntaf mewn 18 mlynedd.

Image
Campbell yn cipio'r fuddugoliaeth. Llun: CPD Caerdydd
Campbell yn cipio'r fuddugoliaeth. Llun: CPD Caerdydd

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.