Canfod dros 100 o foch cwta a 31 cath yn byw mewn cartref 'afiach'
Rhybudd: Gallai rhai o'r lluniau yn yr erthygl hon beri gofid
Cafodd 114 mochyn cwta a 31 cath eu darganfod yn byw mewn amgylchiadau "ffiaidd" ac "afiach" mewn cartref yng Nghasnewydd.
Wrth archwilio'r eiddo yn ardal Dyffyn o'r ddinas y llynedd, daeth swyddogion yr RSPCA o hyd i ddegau o anifeiliad - rhai yn rhydd ac eraill mewn cawelli - yn byw ynghanol carthion heb eu glanhau.
Dywedodd un archwilydd bod llawr y stafell fyw fel "carped o fwd" wedi'i wneud o garthion, gan ddisgrifio'r olygfa yno fel rhywbeth "na welais i erioed o'r blaen."
Ddydd Mercher, cafodd perchnogion yr anifeiliaid - Helen Elizabeth Weston, 61 oed, a Michael Bernard Weston, 73 oed - eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid am weddill eu hoes.
Fe gawson nhw hefyd ddedfrydau wedi'u gohirio o 12 wythnos yn y carchar, yn ogystal â gorchymyn i dalu dros £350 yr un mewn costau a dirwyon.
Roedd y ddau wedi pledio'n euog yn Llys Ynadon Casnewydd i gyhuddiadau o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid.
Fe ddywedodd yr RSPCA bod eu swyddogion wedi ymweld â'r cartref ym mis Mai 2025 ochr yn ochr â milfeddygon a swyddogion Heddlu Gwent yn sgil amheuon ynghylch lles nifer o gathod.
Roedd yr elusen anifeiliaid wedi bod mewn cysylltiad â'r perchnogion o'r blaen, ond doedden nhw erioed wedi cael mynediad i'r adeilad.
Mewn datganiad tyst i'r llys, a gafodd ei rhannu ddydd Mercher, dywedodd Prif Archwilydd yr RSPCA Emma Smith bod "arogl amonia cryf" drwy'r cartref, yn ogystal â baw a llu o bryfed byw a marw ymhobman.
Daeth yr ymchwiliwyr o hyd i'r degau o gathod mewn gwahanol stafelloedd a 114 mochyn cwta yn y stafell fyw. Roedd drws y stafell hon, fel ambell un arall, wedi ei gloi'n dynn.
Moch cwta 'di-ri'
"Roedd nifer di-ri o foch cwta yn y stafell hon, welais i erioed y fath beth o'r blaen," meddai Ms Smith.
"Roedd 'na dros 100 o foch cwta, llawer yn rhydd ac eraill mewn basgedi cathod neu cawelli bychain i foch cwta fod tu mewn, a nifer o'r rheiny wedi eu gosod ar ben ei gilydd neu wedi syrthio'n gam.
"Dyma'r amgylchiadau gwaethaf i fi eu gweld, gyda charthion wedi eu cywasgu'n dew a chaled ar y llawr fel bod 'carped mwd' ar hyd yr stafell fyw."
Clywodd y llys bod problemau iechyd Mr Weston wedi gwaethygu'n ddiweddar, gan orfodi ei wraig i ddod yn ofalwr iddo.
Cyn hynny, roedd nifer y moch cwta dan reolaeth, ond fe gynyddodd y nifer wrth i'r anifeiliad atgynhedlu a chael rhai bach.
Bydd Mr a Mrs Weston yn gallu cyflwyno apêl yn erbyn eu gwaharddiad rhag cadw anifeiliaid ymhen 10 mlynedd.
Bu'n rhaid i swyddogion ddifa sawl anifail, tra bod y gweddill wedi cael eu hailgartrefu yn hapus, yn ôl yr RSPCA.
Lluniau: RSPCA