‘Rhywbeth bysa Cymru yn medru neud’: Y Cymro a helpodd i roi’r T yn ChatGPT
‘Rhywbeth bysa Cymru yn medru neud’: Y Cymro a helpodd i roi’r T yn ChatGPT
Mae’r Cymro a helpodd i ddatblygu’r dechnoleg sydd wrth galon gwasanaeth ChatGPT wedi dweud bod cyfle i Gymru helpu i greu’r genhedlaeth nesaf o ddeallusrwydd artiffisial.
Mae Llion Jones, sy'n gyn-fyfyriwr Coleg Meirion-Dwyfor ond bellach yn byw yn Tokyo, lle mae’n rhedeg cwmni deallusrwydd artiffisial a gyd-sefydlodd.
Yn ddiweddar cafodd radd er anrhydedd gan Brifysgol Bangor am ei gyfraniad i gyfrifiadureg a deallusrwydd artiffisial.
Roedd yn un o awduron y papur Attention Is All You Need, a gyflwynodd dechnoleg o’r enw Transformer.
“Fi oedd â’r papur Attention Is All You Need oedd wedi creu rhywbeth o’r enw Transformer,” meddai.
“A hwnna ydy’r T yn ChatGPT. Ac hwnna sydd yn rhedeg bron iawn gyd o’r artificial intelligence ar y funud.”
Dywedodd Llion Jones fod llawer o bobl yn canolbwyntio ar greu technoleg sy’n debyg i ChatGPT, yn hytrach na cheisio datblygu rhywbeth gwahanol.
Trio gwneud rhywbeth newydd
“Mae pawb yn neud yr un peth ar y funud. Ti’n gwybod, yn creu pethau sydd yn bron iawn yr un peth i ChatGPT.
“A be dw i’n trio neud ydy rhywbeth newydd a trio gweithio allan be sy’n dod nesa.
“Ac achos bod ’na ddim digon o bobl yn neud hynna, mae hwnna’n rhywbeth bysa Cymru yn medru neud.”
Mae hefyd yn credu bod angen i’r system addysg newid wrth i’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial gynyddu.
“Mae addysg ddim wedi newid am hir, felly ella dylsa fo.
“Er enghraifft, os mae’r AI yn gallu neud dy homework di, ella bod yr homework yn ddrwg.
“Ella bod ti angen creu homework sydd yn well, homework lle ti’n gorfod dathlu gyda’r AI yn lle jyst deud, ‘O, sgwena’r essay ’ma.’”
Dywedodd y dylai pobl weld deallusrwydd artiffisial fel adnodd a dysgu sut i’w ddefnyddio’n briodol.
“Tŵl ydy o. Rhywbeth i ddefnyddio, rhywbeth i ddysgu sut i ddefnyddio fo yn iawn.
“Dw i’n dallt bod o’n ofnus, ond os ti jyst yn trio fo ac yn dysgu sut i ddefnyddio fo’n iawn, bydd ti’n ffeindio bod o ddefnydd mawr.”