Mark Lewis Jones i bortreadu'r troseddwr rhyw Neil Foden mewn drama newydd
Bydd yr actor Mark Lewis Jones yn portreadu'r troseddwr rhyw Neil Foden mewn drama newydd ar S4C.
Dywedodd S4C y bydd y gyfres dair rhan "yn archwilio’r methiannau a’r cyfleoedd a gollwyd" i atal y pedoffeil Neil Foden.
Cafodd y cyn-bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ei garcharu am 17 o flynyddoedd yn 2024 am gam-drin merched ifanc yn rhywiol.
Yn 2025, daeth adolygiad annibynnol i’r casgliad fod dros 50 o gyfleoedd wedi eu colli i'w atal rhag ymosod yn rhywiol ar ferched.
Bydd y ddrama, sydd â'r teitl gweithredol Y Pennaeth, yn seiliedig ar dystiolaeth a nodiadau o’r achos cyfreithiol yn Llys y Goron yr Wyddgrug, ac ar adroddiad annibynnol i’r achos gan yr arbenigwraig Jan Pickles, yn ôl S4C.
Dywedodd yr darlledwr y bydd Y Pennaeth yn adrodd yr hanes o safbwynt dwy ferch ifanc sy’n cael eu cam-drin, gyda'r cymeriadau, a nifer o’r golygfeydd, yn ffuglennol er mwyn diogelu goroeswyr yr achos gwreiddiol.
Mark Lewis Jones, sydd wedi ymddangos mewn nifer o gyfresi gan gynnwys Y Golau: Dŵr, The Crown, a Dal y Mellt, fydd yn chwarae rhan Neil Foden.
'Stori bwysig ac ysgytwol'
Yn ôl S4C, bydd y ddrama yn archwilio sut y gwnaeth Foden fanteisio ar sefyllfaoedd personol y merched, yn ogystal â methiannau’r gweithdrefnau diogelu, a’r cyfleoedd a gollwyd i atal troseddau pellach.
Yn ystod y broses o ymchwilio ac ysgrifennu, mae’r awdur a’r cwmni cynhyrchu hefyd yn cydweithio â newyddiadurwr, sydd yn bwynt cyswllt rhyngddynt â rhai oedd ynghlwm â’r hyn ddigwyddodd, neu wedi eu heffeithio gan y digwyddiadau.
Yn ystod y cyfnod datblygu, mae’r cwmni cynhyrchu hefyd wedi bod mewn cysylltiad â Heddlu Gogledd Cymru.
Mae'r heddlu wedi sicrhau bod holl oroeswyr yr achos llys yn ymwybodol o'r prosiect, ac mae'r cwmni cynhyrchu wedi cynnig mynediad at gefnogaeth broffesiynol iddynt meddai S4C.
Mae Y Pennaeth yn gynhyrchiad gan Cynyrchiadau MOJO, sydd wedi bod yn datblygu’r gyfres gyda S4C ers 18 mis.
Llinos Gerallt yw awdur y ddrama, gyda Llyr Morus yn cynhyrchu a Huw Chiswell yn cyfarwyddo.
Dywedodd Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama a Ffilm S4C: "Mae hon yn stori bwysig ac ysgytwol am sut y llwyddodd dyn mewn safle o rym ac ymddiriedaeth i fradychu’r statws hwnnw dros nifer o flynyddoedd, tra’n codi cwestiynau anodd am ddiwylliannau lle mae unigolion yn cael eu gweld fel rhai na ellir eu herio.
"Wedi’i datblygu gyda gofal a sensitifrwydd mawr, mae’r cynhyrchiad yn ymdrin â’r pwnc yn gyfrifol, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau ehangach brad gan ffigwr cyhoeddus a ymddiriedwyd â chyfrifoldeb a gofal."
Bydd Y Pennaeth yn cael ei darlledu ar S4C yn 2027.